Chwe Gwlad 2020: Merched Cymru 15-19 Merched Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Hannah Jones yn croesi i Gymru
Roedd hi'n brynhawn siomedig i dîm Merched Cymru ar Barc yr Arfau wrth i'r Eidalwyr gipio'r fuddugoliaeth yn y Chwe Gwlad.
Fe sgoriodd Cymru ddau gais, gyda Hannah Jones a Kelsey Jones yn croesi.
Ond fe diriodd yr ymwelwyr deirgwaith drwy Melissa Bettoni, Maria Magatti a Sofia Stefan.
Draw yn Ffrainc, roedd tîm Merched Lloegr yn drech na'r Ffrancwyr.
Mae Iwerddon yn wynebu'r Alban yn hwyrach ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020