Nantgaredig: Dyn yn y llys ar gyhuddiad llofruddiaeth

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michael O'Leary ar goll ers methu â dychwelyd adref o'r gwaith ddydd Llun, 27 Ionawr

Mae dyn 52 oed o Sir Gâr wedi ymddangos o flaen llys am y tro cyntaf ers cael ei gyhuddo o lofruddio dyn o Nantgaredig sydd ar goll ers dros wythnos.

Does neb wedi gweld Michael O'Leary, 55, ers dydd Llun, 27 Ionawr ac mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i chwilio nifer o leoliadau wrth geisio dod o hyd iddo.

Cafodd Andrew Jones, o Fronwydd ger Caerfyrddin, ei gadw yn y ddalfa wedi gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Mawrth.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher.

Roedd teuluoedd Mr Jones a Mr O'Leary yn bresennol yn y gwrandawiad ddydd Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Andrew Jones ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher

Cafodd diflaniad Mr O'Leary ei drin yn wreiddiol fel achos person coll, ar ôl iddo fethu â dychwelyd adref o'i waith.

Ymunodd perthnasau a ffrindiau ag ymdrechion y gwasanaethau brys i chwilio amdano mewn ardaloedd o gwmpas Afon Tywi.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i'w gerbyd Nissan Navara yng Nghapel Dewi.

Mae'r heddlu wedi apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd y cerbyd rhwng Cwmffrwd a Chapel Dewi rhwng 20:00 a 22:00 nos Lun, 27 Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Beiciwr

Yn y cyfamser mae'r heddlu hefyd wedi cyhoeddi apêl am wybodaeth am feiciwr oedd yn teithio rhwng Capel Dewi a Chwmffrwd nos Lun, 27 Ionawr, ac wedi cyhoeddi llun CCTV o'r beiciwr.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Jones: "Mae'r person yn ymddangos fel ei fod yn gwisgo siaced hi-vis. Er nad yw'r llun yn glir, rwy'n gobeithio fod rhywun wedi ei weld.

"Os oes unrhyw un yn gwybod pwy yw'r beiciwr, neu a'i gwelodd yn yr ardal, cysylltwch â'r heddlu os gwelwch yn dda."