Cynnydd yn nifer y bobl ddigartref sy'n cysgu ar y stryd

  • Cyhoeddwyd
Digartrefedd ar strydoedd CaerdyddFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnydd wedi bod yn nifer y bobl ddigartref sy'n cysgu mewn pebyll ar rai o brif strydoedd Caerdydd

Mae nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru am eu bod yn ddigartref wedi cynyddu am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Yn ôl amcangyfrif y cynghorau roedd 405 o bobl ddigartref ar y strydoedd ym mis Hydref 2019 - cynnydd o 17%, neu 58 person, ers 2018.

Mae'r niferoedd yn cael eu cyfrif unwaith y flwyddyn ac mae wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cyfrif ddechrau yn 2015.

Dywedodd y Gweinidog Tai, Julie James, ei bod hi'n "naturiol yn siomedig".

"Fodd bynnag, nid yw'r cynnydd yn syndod am ei fod yn adlewyrchu'r sefyllfa rydyn ni'n ei weld ar ein strydoedd, y cymhlethdod sydd ynghlwm â'r mater a'r trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phobl yn y maes," meddai.

Yn ôl Ms James mae llawer o'r rheswm dros hyn yn gysylltiedig â thoriadau Llywodraeth y DU i gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r gweinidog eisiau i swyddogion maes i gael mwy o ryddid ac awdurdod i ymateb yn fuan pan fod pobl sy'n cysgu ar y stryd angen cymorth, yn hytrach na gorfod aros i'w trosglwyddo at wasanaethau eraill.

Yn ogystal â hynny mae cymdeithasau tai wedi galw am gynnydd yn eu cyllid er mwyn iddyn nhw allu darparu mwy o wasanaethau.

Ymarferiad pythefnos

Roedd awdurdodau'n amcangyfrif bod 405 o bobl yn cysgu ar y strydoedd yng Nghymru rhwng 14 a 27 Hydref 2019.

Mae hyn yn gynnydd o 17% (58 o bobl) o'i gymharu â'r un cyfnod ym mis Hydref 2018.

Arsylwi un noson

Cafodd 176 o bobl eu canfod yn cysgu ar y strydoedd ar draws Cymru rhwng 22:00 ar 7 Tachwedd a 05:00 ar 8 Tachwedd.

Roedd hynny'n gynnydd o 11% (18 o bobl) o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda'r rhifau'n amrywio ar draws yr awdurdodau lleol.

Gwelyau brys

Yn ôl yr awdurdodau lleol roedd yna 210 o welyau brys ar gael ar draws Cymru, sy'n gynnydd o 14% ar y flwyddyn flaenorol.

Er gwaetha'r cynnydd, roedd y nifer o welyau a oedd yn wag ar y noson o dan sylw yn llai yn 2019 (8%) nac yn 2018 (18%) a 2017 (18%).