Gwasanaethau digartrefedd 'wedi torri' meddau ACau
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau i drin pobol digartref sydd â phroblemau iechyd meddwl a chyffuriau wedi "torri", yn ôl Aelodau Cynulliad.
Does dim digon o arian i ddelio gydag "argyfwng digartrefedd" yng Nghymru, meddai adroddiad, sydd hefyd yn nodi diffyg arweinyddiaeth.
Mae elusennau'n galw am gamau "radical", fel darparu ystafelloedd chwistrellu, gan fod 40% o farwolaethau ymysg rheiny sy'n byw ar y stryd yn gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod eisiau sicrhau nad oes rhaid i unrhyw un fyw ar y stryd.
Roedd yr ystadegau diweddaraf yn amcangyfrif bod rhyw 347 o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru.
'System wedi torri'
Mae yna gred bod 124 o bobol wedi marw yma wrth gysgu ar y stryd ers 2013. Llynedd, gwelwyd y nifer mwyaf hyd yn hyn.
Hefyd, mae nifer y teuluoedd digartref mwyaf anghenus, sydd ddim o reidrwydd yn byw ar y stryd, yn cynyddu.
Dywedodd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad mai "cyfyngedig, os o gwbl, yw'r gwasanaethau integredig" ar gyfer pobl sy'n byw ar y stryd sydd â phroblemau iechyd meddwl, cyffuriau neu alcohol".
"Cawsom wybod bod pobl ar hyn o bryd yn gorfod gweithio o amgylch system sydd wedi torri."
Clywodd ACau bod hi'n well, o bosib, gan bobl gyda phroblemau difrifol fod ar y stryd na defnyddio gwasanaethau os ydych chi'n "gallu diffodd y boen yn hawdd gyda spice neu heroin".
Mae ACau wedi gofyn am eglurder ynglŷn â phwerau'r Cynulliad i gyfreithloni ystafelloedd chwistrellu.
Maen nhw hefyd yn dweud bod angen lleihau achosion o erlyn landlordiaid sydd â thenantiaid sy'n defnyddio cyffuriau.
Dylai gwasanaethau tai, iechyd a chyffuriau gydweithio, meddai'r adroddiad, ac ni ddylai pobl golli cefnogaeth gwasanaethau os ydyn nhw'n methu apwyntiadau.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, John Griffiths: "Nid oes unrhyw gwestiwn ein bod yn wynebu argyfwng o ran cysgu ar y stryd, ac ar hyn o bryd nid oes digon o arian yn y system i sicrhau'r newid sylweddol sydd angen i fynd i'r afael â'r broblem.
"Fodd bynnag, mae'n amlwg hefyd bod llawer o broblemau strwythurol ledled Cymru sy'n ein rhwystro rhag dileu cysgu ar y stryd. Ni ellir atal digartrefedd drwy gartrefi yn unig, mae rôl i'r holl wasanaethau cyhoeddus o ran mynd i'r afael â'r broblem."
'Dydych chi ddim ar eich pen eich hun'
Penderfynodd Hayley Thomas helpu pobl sy'n byw ar y strydoedd yng Nghasnewydd ar ôl siopa yn y ddinas Nadolig diwethaf.
"Roedd pebyll ym mhobman," meddai'r fam i bump o Oakdale.
"Roedd pobl yn eistedd ar y palmant yn edrych yn drist a gwlyb iawn a dywedais wrth fy ngŵr gallwn ni ddim mynd i gael pryd o fwyd posh pan mae pobl y tu allan yn y glaw sydd heb ddim."
Dechreuodd wirfoddoli i roi bwyd i bobl ddigartref ddechrau'r flwyddyn.
Erbyn hyn mae grŵp o bobl yn cynnal cegin mewn maes parcio ac yn dosbarthu nwyddau dair neu bedair gwaith yr wythnos.
"Ry'n ni wedi gweld rhai pethau erchyll. Fe wnaethom weld dyn yn y gaeaf oedd yn dioddef o niwmonia," meddai.
Nid dim ond pobl ar y strydoedd sy'n dod am help. Mae Hayley'n dweud bod newidiadau i'r wladwriaeth les wedi gwneud bywyd yn anoddach i rai.
"Gyda'r Credyd Cynhwysol yn dod i mewn, rydym wedi gweld cynnydd enfawr mewn teuluoedd yn troi i fyny, yn gofyn am fwyd i'r plant."
Mae rhai pobl yn amheus am ddefnyddio gwasanaethau swyddogol, meddai, felly mae'n bwysig perswadio pobl i ymddiried yn y system.
"Yr holl amser rydyn ni'n helpu'r bechgyn sy'n ddigartref, rydyn ni'n... siarad â nhw i geisio eu cael i ymgysylltu, i ddeall bod yna ffordd arall i wneud hyn - 'dych chi ddim ar eich pen eich hun, byddwn yn eich helpu ac mae gwasanaethau yno gall eich helpu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2019