Dau lanc yn y llys wedi gwrthdrawiad angheuol
- Cyhoeddwyd
Mae dau lanc o Sir Ddinbych wedi ymddangos mewn llys wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth merch 17 oed trwy yrru'n beryglus.
Bu farw Olivia Alkir fis Mehefin y llynedd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng Ford Fiesta coch a Mercedes du ar y B5105 yn ardal Efenechtyd, rhwng Rhuthun a Cherrigydrudion.
Mae Thomas Quick, 18, o Glawddnewydd, a bachgen 17 oed o Ddyffryn Clwyd - na ellir ei enwi am resymau cyfreithiol - hefyd yn wynebu pedwar cyhuddiad o achosi niwed difrifol trwy yrru'n beryglus.
Cafodd y ddau eu rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod gan ynadon Llandudno nes eu gwrandawiad nesaf yn Llys Y Goron Yr Wyddgrug ar 6 Mawrth.
Cafodd pump o bobl eu hanafu yn y gwrthdrawiad.
Roedd Olivia newydd gael ei phenodi'n ddirprwy brif ferch Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun pan fu farw ac fe gafodd ei disgrifio gan ei theulu fel merch "llawn hwyl, doeth ac uchelgeisiol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2019