Diffyg arian yn 'her' i elusennau iechyd meddwl ffermwyr

  • Cyhoeddwyd
Ffarmwr mewn cae gyda defaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn ymgyrchu i chwalu'r stigma ynglyn a iechyd meddwl - gan bwysleisio ei bod hi'n iawn i siarad

Wrth i ffermwyr gael eu hannog i drafod problemau iechyd meddwl, mae elusennau yn y maes yn dweud bod angen mwy o gymorth o hyd.

Fe ddaw'r alwad honno wrth i bobl ledled Cymru gael eu hannog i drafod ar ddiwrnod 'Amser i Siarad'.

Mae'r ffigyrau diweddara gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod naw o bobl yn y diwydiant ffermio neu ddiwydiannau cysylltiol wedi lladd eu hunain yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Mae un elusen sydd ar waith yn y gorllewin, ac sy'n cynnig llinell gymorth i ffermwyr a'u cyfeirio at gymorth pellach, yn dweud bod diffyg arian yn broblem.

Disgrifiad,

Dywedodd Endaf Griffiths bod angen gwneud mwy i gefnogi iechyd meddwl ffermwyr

"Diwedd pob cân yw'r geiniog," meddai'r Hybarch Eileen Davies, sylfaenydd elusen Tir Dewi.

"Mae'n rhaid i ni gael arian er mwyn gweithredu, ac fel mae Tir Dewi ar hyn o bryd dan ni nawr yn edrych i ymestyn drwy Gymru gyfan.

"'Da ni wedi bod yn ffodus i gael arian yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond eto does 'na ddim digon... na gormod i gael, er mwyn i ni sicrhau bod ffermwyr yng ngogledd Cymru a Phowys hefyd yn medru cael braich o Dir Dewi i'w cynorthwyo."

Mae Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc yn ymgyrchu i chwalu'r stigma ynglŷn ag iechyd meddwl - gan bwysleisio ei bod hi'n iawn i siarad - a dyna oedd y neges yn ystod cyfarfod yng Nghastell Newydd Emlyn yr wythnos hon.

Er mwyn ceisio cynyddu faint o arian sydd ar gael i gynorthwyo elusennau sy'n cynnig cymorth bydd CFfI Cymru yn cyhoeddi sengl arbennig, 'Bydd Wych', ddydd Gwener, a bydd yr arian o werthu hwnnw'n mynd at elusen meddwl.org.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd sengl newydd gael aelodau CFfi Cymru yn codi arian at elusen iechyd meddwl, meddwl.org

Wrth ymateb mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod adroddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes wedi cynnig tystiolaeth werthfawr ym maes iechyd meddwl teuluoedd sy'n ffermio, ac fe fydd hwnnw'n cael ei ddefnyddio i roi cymorth gwell i ffermwyr a'u teuluoedd.

Dywedodd hefyd bod y Llywodraeth yn cadeirio Grŵp Cefnogi Ffermwyr Cymru, a bydd menter newydd yn cael ei rhoi ar waith yn y gwanwyn fydd yn cyfeirio ffermwyr - drwy'r we a dogfen bapur - at y cymorth sydd ar gael.

Eto i gyd, mae Stephen Hughes, mab fferm o Fôn, yn dweud bod rhagor i'w wneud o hyd.

Fe gymerodd ei dad, Elfed, ei fywyd ei hun bron i bum mlynedd yn ôl.

"'Da ni'n cychwyn o sefyllfa isel iawn... doedd neb yn trafod o gwbl 10 mlynedd yn ôl. 'Da ni'n symud i'r cyfeiriad cywir ond mae 'na lot, lot mwy o waith i'w wneud," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae teulu Elfed Hughes yn dweud bod llawer mwy o waith i'w wneud eto i gynorthwyo ffermwyr

"O ran y cymorth yn ymarferol, 'da ni yn gwbod y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd ac ar gymunedau yn gyffredinol, sydd wedyn yn effeithio ar y gwaith mae'r elusennau'n gallu ei wneud.

"Mae angen pot enfawr o arian i ddelio a'r broblem yma a'i gwneud hi'n fwy gweladwy fel bod ni'n sylweddol maint y broblem.

"'Da ni ddim yn gwybod faint o broblem dan ni'n wynebu oherwydd dan ni ddim eto wedi cyrraedd y sefyllfa lle dan ni'n trafod hyn yn ddigon agored."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol