Ysgolion ar gau wedi i bibell ddŵr fyrstio yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae Dŵr Cymru yn dweud bod pibell wedi byrstio yng Nghaernarfon, gan effeithio ar gyflenwad dŵr rhan helaeth o'r dref.
Mae pum ysgol yn y dref wedi gorfod cau oherwydd y broblem.
Dywedodd Dŵr Cymru bod y bibell wedi byrstio yn ardaloedd Rhosbodrual a Chaeathro, gan olygu bod trigolion â gwasgedd isel, neu ddim gwasgedd o gwbl.
Ychwanegodd y cwmni ei fod yn gobeithio adfer y cyflenwad erbyn 16:00 ddydd Iau.
Yr ysgolion sydd ar gau ydy Ysgol Syr Hugh Owen, Ysgol Maesincla, Ysgol Santes Helen, Ysgol Y Gelli ac Ysgol Pendalar.
Fis diwethaf bu Ysgol Syr Hugh Owen ynghau am ddeuddydd yn dilyn gollyngiad nwy ar y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020