Diflaniad Nantgaredig: Archwilio safle tirlenwi
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod yn archwilio safle tirlenwi ym Mhontardawe, yn ogystal â nifer o safleoedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin fel rhan o'u hymchwiliad i ddiflaniad Michael O'Leary.
Diflannodd Mr O'Leary, 55 oed ac o Nantgaredig, ar 27 Ionawr, ac mae'r chwilio amdano yn parhau.
Fe ddywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Paul Jones wrth BBC Cymru eu bod nhw'n chwilio am eitemau allai fod yn berthnasol i'r ymchwiliad.
Fe apeliodd Mr Jones unwaith eto am wybodaeth am seiclwr a gafodd ei weld ar gamera cylch cyfyng ar Lôn Penymorfa yn Llangynnwr am 20:45 ar 27 Ionawr, y noson y diflannodd Mr O'Leary.
Maen nhw hefyd yn galw am unrhyw wybodaeth am y seiclwr yn yr ardal ehangach, ac yn apelio am luniau allai fod wedi cael eu recordio ar gamerâu mewn ceir neu ar dai yn yr ardal rhwng Capel Dewi a Chwmffrwd.
Mae'r heddlu hefyd wedi dweud fod cerbyd Nissan Navara Mr O'Leary wedi ei adael mewn maes parcio pysgotwyr ar y ffordd rhwng Llangynnwr a Chapel Dewi.
Dydyn nhw ddim yn gwybod pwy yrrodd y cerbyd yno.
Dywedodd Mr Jones fod yr ymateb eisoes gan y cyhoedd wedi bod yn fuddiol.
"Mae hwn yn ymchwiliad tu hwnt o gymhleth, ac rydym yn llwyr ymwybodol o'r effaith ar y teulu a'r gymuned," meddai.
Mae Andrew Jones, 52 oed, wedi ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio Mr O'Leary.
Mi fydd y perchennog cwmni adeiladu o Gaerfyrddin yn ymddangos yn Llys Y Goron Abertawe ym mis Mai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2020