Teulu Michael O'Leary yn diolch i'r heddlu a'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd
Michael O'LearyFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r heddlu wedi dod o hyd i Michael O'Leary ers iddo ddiflannu ar 27 Ionawr

Mae teulu dyn o Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos wedi diolch i'r gymuned am eu cefnogaeth.

Nid oes unrhyw un wedi gweld Michael O'Leary ers 27 Ionawr ar ôl iddo fethu a dychwelyd adref o'i waith.

Fe ymddangosodd Andrew Jones, 52 oed o Gaerfyrddin, yn y llys fore dydd Mercher wedi ei gyhuddo o lofruddio Mr O'Leary.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf ar 15 Mai.

Mewn datganiad nos Fercher dywedodd Heddlu Dyfed Powys: "Mae teulu Mr O'Leary eisiau diolch i'r gwasanaethau brys, gwirfoddolwyr a'r gymuned am eu cefnogaeth.

"Mae'r teulu nawr yn gofyn i'w preifatrwydd gael ei barchu yn ystod yr amser anodd yma."