Wayne Pivac: 'Gêm Iwerddon fydd prawf mwyaf fy ngyrfa'
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac yn dweud mai'r gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn fydd prawf mwyaf ei yrfa hyd yn hyn.
Bydd Cymru'n herio'r Gwyddelod yn Stadiwm Aviva yn Nulyn am 14:15 brynhawn Sadwrn.
Roedd y ddau dîm yn fuddugol yn eu gemau cyntaf yn y bencampwriaeth, gyda Chymru'n trechu'r Eidal ac Iwerddon yn fuddugol yn erbyn Yr Alban.
Dydy Cymru ddim wedi ennill gêm Chwe Gwlad yn Nulyn ers 2012.
Mae yna un newid munud olaf i'r garfan - bydd Jarrod Evans yn cymryd lle Owen Williams wedi iddo fe gael anaf i linyn ei gâr yn ystod ymarfer cynhesu fore Sadwrn.
'Lot o bwysau'
"Bydd hwn yn brawf gwirioneddol i weld ble ry'n ni arni a faint o waith sydd gennym ni i wneud er mwyn chwarae ein gêm dan bwysau," meddai Pivac.
"Mae hi wedi bod yn wythnos dda, ac rydych chi'n gallu dweud ei bod yn gêm fwy na'r wythnos ddiwethaf o ymateb y chwaraewyr.
"Rwy'n siŵr y byddai'n mwynhau'r achlysur, ond mae 'na lot o bwysau hefyd."
Mae rhybudd am dywydd garw mewn grym yng Nghymru ac Iwerddon dros y penwythnos, gyda phryder y gallai hynny effeithio ar drefniadau teithio cefnogwyr o Ddulyn.
Fe allai'r tywydd gael effaith ar y gêm hefyd, gyda'r posibilrwydd o law a gwyntoedd cryfion yn Nulyn.
Ar y cae, dim ond un newid sydd i'r 15 ddechreuodd yn erbyn Yr Eidal, gyda chanolwr Saracens, Nick Tompkins yn dechrau wrth i Johnny McNicholl orfod bodloni am le ar y fainc.
Dau newid sydd i dîm y Gwyddelod, gyda'r canolwr Robbie Henshaw yn cymryd lle Garry Ringrose a Peter O'Mahony yn dechrau yn y rheng ôl yn lle Caelan Doris.
Mae Cymru'n gobeithio ennill eu nawfed gêm yn olynol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, fyddai'n eu gwneud yn gyfartal â'u record bresennol gafodd ei gosod rhwng 1970 ac 1973
'Erioed wedi bod yn hapusach'
O ran tactegau yn Nulyn, mae'r maswr Dan Biggar wedi dweud y bydd y Cymry yn ceisio gwneud capten newydd Iwerddon, Johnny Sexton "mor anghyfforddus â phosib".
"Ein cyfrifoldeb ni ddydd Sadwrn yw ceisio gwneud bywyd mor anghyfforddus â phosib iddo," meddai Biggar.
"Os ydyn ni'n ei adael i redeg y gêm, ry'n ni wedi gweld dros y blynyddoedd chwaraewr mor dda ydy Johnny.
"Mae wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Iwerddon am y 10, 12 blynedd ddiwethaf."
Biggar sydd wedi ei ddewis gan yr hyfforddwr Neil Jenkins i gicio i Gymru yn y bencampwriaeth eleni, er bod Leigh Halfpenny yn dechrau fel cefnwr.
Dywedodd ei fod yn "falch o gael y cyfrifoldeb" a'i fod "erioed wedi bod yn hapusach" gyda'i rygbi.
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; George North, Nick Tompkins, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ryan Elias, Rhys Carré, Leon Brown, Adam Beard, Ross Moriarty, Gareth Davies, Jarrod Evans, Johnny McNicholl.
Tîm Iwerddon
Jordan Larmour; Andrew Conway, Robbie Henshaw, Bundee Aki, Jacob Stockdale; Jonathan Sexton (capt), Conor Murray; Cian Healy, Rob Herring, Tadhg Furlong, Iain Henderson, James Ryan, Peter O'Mahony, Josh van der Flier, CJ Stander.
Eilyddion: Ronan Kelleher, Dave Kilcoyne, Andrew Porter, Devin Toner, Max Deegan, John Cooney, Ross Byrne, Keith Earls.
Amserlen y gemau
Sadwrn 1 Chwefror, 14:15 - Cymru 42-0 Yr Eidal
Sadwrn 8 Chwefror, 14:15 - Iwerddon v Cymru
Sadwrn 22 Chwefror, 16:45 - Cymru v Ffrainc
Sadwrn 7 Mawrth, 16:45 - Lloegr v Cymru
Sadwrn 14 Mawrth, 14:15 - Cymru v Yr Alban
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020