Chwe Gwlad 2020: Cymru 42-0 Yr Eidal
- Cyhoeddwyd

Josh Adams yn sgorio'r cyntaf o'i dri chais
Fe ddechreuodd ymgyrch Cymru yn y Chwe Gwlad eleni gyda buddugoliaeth ysgubol o 42-0 yn erbyn Yr Eidal yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Ond bu'n rhaid i Gymru ddisgwyl tan y munudau olaf i sicrhau'r pwynt bonws, gyda George North yn croesi am gais rhif pedwar.
Fe sicrhaodd Josh Adams ei hat-tric gyda symudiad olaf y gêm, wrth i dîm Wayne Pivac atal yr Eidalwyr rhag sgorio'r un pwynt.
Aeth y tîm cartref ar y blaen yn gynnar yn y gêm, gyda Dan Biggar - yn hytrach na Leigh Halfpenny - yn cicio tair cic gosb, gan gynnwys un o bellter.
Yn fuan wedyn, fe wnaeth Adams ymestyn y fantais, ar ôl iddo orffen symudiad da gan yr olwyr a chroesi yn y gornel chwith.
Fe groesodd Adams yn yr un gornel eto ar ôl cyfnod hir o bwyso a phas rhwng ei goesau gan Biggar.

Fe lwyddodd Nick Tompkins, 24, i greu dipyn o argraff yn ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Roedd yr ail hanner yn arafach o ran tempo, gyda'r Eidal yn hawlio mwy o feddiant.
Ond fe sbardunwyd y gêm gyda chais gan un o'r wynebau newydd yn y garfan.
Nick Tompkins - a oedd wedi creu argraff pan ddaeth ymlaen am gyfnod byr yn yr hanner cyntaf - sgoriodd y cais wedi bylchiad ffrwydrol cyn tirio o dan y pyst.
Fe allai'r sgôr fod wedi bod yn fwy o destun embaras i'r Eidalwyr, ar ôl i gais George North gael ei ganslo gan y dyfarnwr fideo.
Cafodd North ei lusgo dros y llinell gais gan y bytholwyrdd Alun Wyn Jones, cyn i Adams gwblhau'r grasfa ar ôl i'r cloc droi'n goch.
Ond roedd hi'n berfformiad calonogol iawn i Pivac a'i dîm hyfforddi newydd, wrth i'r paratoadau droi at y daith i Ddulyn ddydd Sadwrn nesaf.
Seren y gêm - Justin Tipuric
Tîm Cymru
Leigh Halfpenny; Johnny McNicholl, George North, Hadleigh Parkes, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Wyn Jones, Ken Owens, Dillon Lewis, Jake Ball, Alun Wyn Jones (capt), Aaron Wainwright, Justin Tipuric, Taulupe Faletau.
Eilyddion: Ryan Elias, Rob Evans, Leon Brown, Cory Hill, Ross Moriarty, Rhys Webb, Jarrod Evans, Nick Tompkins.
Tîm Yr Eidal
Matteo Minozzi; Leonardo Sarto, Luca Morisi, Carlo Canna, Mattia Bellini; Tommaso Allan, Callum Braley; Andrea Lovotti, Luca Bigi (capt), Giosuè Zilocchi, Alessandro Zanni, Niccolò Cannone, Jake Polledri, Sebastian Negri, Abraham Steyn.
Eilyddion: Federico Zani, Danilo Fischetti, Marco Riccioni, Dean Budd, Marco Lazzaroni, Giovanni Licata, Guglielmo Palazzani, Jayden Hayward.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2020