Pryder y bydd Addysg Grefyddol gorfodol yn torri hawliau dynol
- Cyhoeddwyd
Gallai gorfodi pob plentyn i gymryd rhan mewn dosbarthiadau addysg grefyddol arwain at achos llys dros dorri hawliau dynol, yn ôl arbenigwr cyfreithiol.
Bydd rhieni'n colli'r hawl i dynnu eu plant o ddosbarthiadau am grefydd o dan gwricwlwm newydd Cymru.
Ond mae'r academydd cyfraith ryngwladol, Syr Malcolm Evans yn rhybuddio y gallai dileu'r dewis i dynnu plant o'r gwersi arwain at achosion yn erbyn y llywodraeth.
Mae Llywodraeth Cymru'n pwysleisio nad yw eu cynlluniau'n mynd yn groes i'r Ddeddf Hawliau Dynol.
O dan y drefn ar hyn o bryd, mae rhieni'n gallu mynnu nad yw eu plant yn cymryd rhan mewn addysg rhyw a gwersi crefyddol.
Ond o dan y cwricwlwm newydd, fydd yn cael ei gyflwyno mewn ysgolion o fis Medi 2022 ymlaen, bydd y gwersi yn orfodol er gwaetha unrhyw wrthwynebiad gan rieni.
Mae gweinidogion wedi dadlau bod gwneud y pynciau'n orfodol yn sicrhau fod pob plentyn yn cael gwybodaeth bwysig a'i fod yn gyson â statws pynciau eraill.
'Hawl i eithrio'
Dywedodd Syr Malcolm, aelod o'r Comisiwn ar Addysg Grefyddol ac athro'r gyfraith ym Mhrifysgol Bryste, y gallai dileu'r cyfle i dynnu plant allan o wersi addysg grefyddol dorri hawliau dynol.
Yn sgil y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol mae gan rieni'r hawl i gael addysg i'w plant yn unol â'u hargyhoeddiadau crefyddol neu athronyddol, sydd hefyd yn cynnwys credoau di-grefydd.
Dywedodd Syr Malcolm bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn "hollol siŵr" bod y gwersi yn "ddigon cynhwysol, lluosog, beirniadol a gwrthrychol" er mwyn osgoi heriau.
Ychwanegodd ei fod yn cytuno â'r egwyddor o ddarparu addysg eang am wahanol grefyddau, traddodiadau ffydd a chredoau di-grefydd, ond fod problemau yn debygol o ddigwydd.
"Yn fy marn i, mae cael y dewis i eithrio yn hawl defnyddiol i'w chael," meddai Syr Malcolm.
"Mae'n ddefnyddiol a phwysig bod gan y rhieni a'r plant sydd wirioneddol yn ei chael yn amhosib cysoni eu credoau â chynnwys yr addysg, yr hawl i eithrio eu hunain o'r dosbarthiadau hynny."
O dan y cwricwlwm newydd bydd Addysg Grefyddol yn cael ei ailenwi'n Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod angen ymdrin yn ofalus a sensitif â'r polisi cyn ei weithredu ymhen dwy flynedd.
"Bydd y fframwaith deddfwriaethol a'r canllawiau yn gydnaws â'r hawliau sy'n cael eu diogelu gan Ddeddf Hawliau Dynol 1998," meddai llefarydd.
'Ymarferol amhosib'
Mae cymdeithas y Dyneiddwyr hefyd yn gwrthwynebu dileu'r hawl i eithrio o wersi crefyddol.
Maen nhw'n ofni na fydd ysgolion ffydd yn ymdrin ag addysg grefyddol mewn ffordd digon eang.
"Rydyn ni'n hynod bryderus, mewn ysgolion ffydd… ble mae'n bosib bod athrawon yn dysgu plant o safbwynt crefyddol penodol, y bydd hyn yn ymarferol amhosib," meddai Kathy Riddick, cydlynydd Dyneiddwyr Cymru.
"Mae'r gyfraith newydd yn codi'r perygl o blant yn cael eu trwytho mewn modd anghyfreithlon."
Mae'r corff yn galw ar Lywodraeth Cymru i "ailystyried y penderfyniad o ddifrif".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2018