Newid i gwricwlwm addysg grefyddol yn 'ynysu' athrawon
- Cyhoeddwyd
Mae rhai athrawon yn teimlo'n "ynysig" yn dilyn newidiadau i'r cwricwlwm addysg grefyddol, yn ôl un sy'n dysgu ar Ynys Môn.
Rhan o'r broblem, yn ôl Mefys Jones-Edwards o Ysgol Syr Thomas Jones yn Amlwch, yw'r prinder deunyddiau Cymraeg yn y maes.
Daw ei sylwadau wrth i Brifysgol Bangor lansio prosiect i greu mwy o adnoddau addysg grefyddol i athrawon a disgyblion.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi dros £2.6m bob blwyddyn i greu a chyhoeddi adnoddau addysgol Cymraeg.
Yn ôl Dr Gareth Evans-Jones o Brifysgol Bangor, cafodd y prosiect ei lansio'r wythnos diwethaf yn sgil ymateb athrawon i'r newid yn y cwricwla.
"Y neges oedd yn cael ei chyfleu yn aml oedd bod 'na heriau mawr yn codi yn sgil y maes llafur newydd, yn enwedig felly'r Lefel A newydd," meddai.
"A'r teimlad bod rhai athrawon ddim yn gwbl gyfforddus gyda rhai agweddau fel moeseg ac athroniaeth crefydd, er enghraifft."
'Pwysau ychwanegol' cyfieithu
Dywedodd Mrs Jones-Edwards, sy'n dysgu'r pwnc ers 25 mlynedd, bod rhai yn teimlo'n "ynysig" gyda'r newid yn y cwricwla - yn enwedig athrawon cyfrwng Cymraeg, sy'n gorfod delio â diffyg adnoddau.
"Mae hi'n fisoedd cyn cael deunyddiau cyfrwng Cymraeg - sy'n rhoi pwysau ychwanegol am fod rhaid cyfieithu deunyddiau," meddai.
Pan ofynnwyd iddi a ddylai'r math yma o gefnogaeth fydd yn cael ei gynnig gan y prosiect ym Mhrifysgol Bangor fod wedi cael ei gynnig ynghynt gan Lywodraeth Cymru, dywedodd: "Yn bendant.
"Beth sydd wedi bod yn digwydd ydi bod cefnogaeth yn dod, ond ddim i gyd yr un adeg.
"Yn fy marn i, os oes manyleb newydd yn cael ei chyhoeddi, mi ddylai adnoddau a gwerslyfrau fod yn barod yr un pryd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae athrawon yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd i Gymru ac rydym yn gweithio'n agos â phartneriaid allweddol ac arbenigwyr drwy gydol y broses.
"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod yr adnoddau cywir ar gael i gefnogi addysgu a dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Dyma pam ein bod yn buddsoddi dros £2.6 miliwn yn flynyddol i ddatblygu a chyhoeddi adnoddau Cymraeg ar draws holl bynciau'r cwricwlwm a phynciau galwedigaethol ar gyfer plant a phobl ifanc 3-19 oed."