Ateb y Galw: Yr actores Elin Harries

  • Cyhoeddwyd
Elin Harries

Yr actores Elin Harries sy'n Ateb y Galw'r wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Steffan Alun yr wythnos diwethaf.

Mae Elin yn gyfarwydd i ffans Pobol y Cwm, fel Dani - cymeriad sydd wedi bod drwy lawer ers iddi gyrraedd y Cwm gyntaf yn 2007.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Atgof cynta' ('wy'n meddwl) yw paratoi i fynd ar wylie i Ffrainc pan oeddwn yn dair mlwydd oed efo Mam, Dad, Gu a Gyg (Mamgu a Tadcu). Ddim yn cofio'r holl drip, na cyrraedd hyd yn oed - ond yn cofio eistedd yn yr hen Ford Fiesta glas, efo Dad yn cael trafferth efo'r choke.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn iau?

Reit, wel ma' 'na berson go iawn, ac yna un mewn ffilm... 'nai drafod y ffilm!

Tro cynta' i mi weld y ffilm Casper (efo Christina Ricci), y foment wnaeth Casper drawsnewid yn fachgen go iawn, bron i mi gwympo o'r soffa! Gwmpes i mewn cariad y foment honno - yn llythrennol yn meddwl 'nath angel gwympo o'r awyr!

Ffynhonnell y llun, Casper
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor ifanc, Devon Sawa, yn ffilm Casper o 1995 - neu yr angel 'nath gwympo o'r awyr'

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O mei gosh - LLWYTH! Felly, 'wy ddim am gomentio - angen cadw'r universal alignment ar y trywydd cywir! Dim bad vibes!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Dwi ddim yn berson sy'n crïo llawer, ond y tro dwetha' nes i oedd tua dau fis yn ôl pan farwodd Dennis ein ci. Nes i dorri lawr yn gyfan gwbl un noswaith pan wnaeth y newyddion suddo mewn.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Eto, oes - LLWYTH! Cwestiwn nesa'...

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Fy hoff le ar hyn o bryd (gan bo' fi a'r boi bach newydd symud) yw fy nghartre'. Mae'n fach, hen a thwt... ond yn llawn cariad, tantrums, mess, chwerthin, llefen a chewynne budr! Dwi'n ddiolchgar i fod yn gallu treulio amser efo fe, ac i'w weld yn tyfu a datblygu. Cartre a chariad sy'n bwysig.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Wedi bod sawl noson ffab ac anghofiadwy, ond yr un sydd yn rili taro fi yw'r noson gawsom yn LA mis Medi 2017. Ges i'r anrhydedd o gael treulio'r noson yn cael pryd o fwyd, diodydd a gwrando ar gerddoriaeth ffantastig efo fy arwr, yr artist Fabian Perez a'i wraig. Nes i gwrdd â bass player i David Bowie, a chwrdd â rhai o ffrindie Fabian sydd hefyd yn fodelau iddo (sydd yn y celf ar y wal gartre!)

Noson anhygoel mewn pob ffordd.

Ffynhonnell y llun, Maury Phillips
Disgrifiad o’r llun,

Fabian Perez - yr arlunydd o'r Ariannin

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Rhyfedd, byrbwyll, diolchgar.

Beth yw dy hoff lyfr neu ffilm?

Ma' 'na dri o mhlentyndod sydd wedi sticio - Splash, Death Becomes Her a Neverending Story.

*Pwynt pwysig i'w nodi - hefyd unrhywbeth Disney a Nadoligaidd!*

Cofio mynd i'r portacabin pan yn fach yn Betws a dewis ffilm. Byse token o dan y ffilm os oedd e ar gael i'w rentu. Ddath e'n rhyw fath o ritual fel petai, bob yn ail wythnos, i fynd i 'Touts' i bigo ffilm i'r penwythnos. Ma' 'na lwythi o ffilms allen i bigo fel oedolyn, ond dyma'r rhai oedd wir yn ddylanwadol arna i fel croten fach.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Waw - am gwestiwn! Ga i un am bob un?

Yn farw - Gu, bendant. Oedd Gu a fi yn pals mawr pan yn ifanc. Nelen i unrhyw beth i gal sit down a chat efo hi dros G&T!

Yn fyw - Ar hyn o bryd (peidiwch â chwerthin) Dwayne Johnson - 'wy'n obsesd!

O archif Ateb y Galw:

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Bo' fi mo'yn cal tequila slammers efo Dwayne Johnson.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mae'n dibynnu rili - faint o rybudd dwi'n ei gael?

Ar y diwrnod - ymweld â phawb sydd wedi cefnogi, dangos cariad a trust ynddai yr holl flynydde. Dweud diolch.

Ond os ga i wythnose o rybudd... mynd i lefydd yn y byd alla i ddysgu rhywbeth - achos bo' fi'n gallu a mo'yn dysgu. Am ffordd o fyw, agwedd at fywyd - mewn gobaith fydd yn mab yn etifeddu'r un egwyddor

Beth yw dy hoff gân a pham?

Ddim yn dilyn y rheolau eto, gen i ddau: Eagle Eye Cherry - Save Tonight a Verve - Bitter Sweet Symphony. Ddim yn gwbod pam - fel 'na mae hi.

Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddai'r dewis?

Nawr ni'n siarad!

Eto, ddim yn dilyn y rheolau - fi mo'yn mwy na thri!

Aperitif - Tuna tartare a gwydred o siampên.

I ddechrau - Seafood bisque efo bara neis neu rywbeth fel corgimwch a chorizo.

Gwydred o siampên...

Ail gwrs - Cimwch, mewn unrhyw ffordd - dwi ddim yn ffysi (a cwpl o scallops ar yr ochr 'fyd)

Gwydred o siampên... i lanhau'r palate, wrth gwrs

Trydydd cwrs - stêc ffiled rare a chunky truffle chips (ti ddim yn 'neud ffrindie 'da salad...!)

Gwydred o siampên

Pwdin - os fi'n gallu cofio fe ar ôl y holl siampên - sticky toffee pudding efo cwstard... mmm!

Ffynhonnell y llun, lostinbids
Disgrifiad o’r llun,

Oes 'na ddigon o boteli yma, tybed...?

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Fy mab. Mae e'n bablo gyment. Ma' e'n gwbod be' mae e'n dweud ond 'sdim SYNIAD 'da fi! Licen i wbod be' sy'n mynd drwy ei feddwl bach e drw' gydol y dydd ac i ddysgu be' sy'n bwysig iddo fe, fel bo' fi'n gallu fod y fam ore posib.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Aled Llŷr Thomas

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw