Undeb yn gwadu bod criwiau tân 'yn llai a llai prysur'
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb y Brigadau Tân (yr FBU) wedi beirniadu awgrym gan Lywodraeth Cymru y gallai diffoddwyr tân wneud rhywfaint o waith y GIG am fod llai o'u hamser yn cael ei dreulio yn ymateb i danau.
Awgrymodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau y gallai gwasanaethau tân Cymru dderbyn dyletswyddau newydd, gan gynnwys ymateb i argyfyngau meddygol.
"Mae unrhyw awgrym eu bod 'yn llai a llai prysur' yn hurt," meddai Ysgrifennydd Cyffredinol yr FBU, Matt Wrack, sydd hefyd yn dweud na fu unrhyw ymgynghori cyn y cyhoeddiad.
Ond mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod yr undeb "wedi mynegi cefnogaeth mewn egwyddor" i'r newidiadau ar ôl bod yn rhan o drafodaethau "helaeth".
'Nad meddygon na nyrsus mo diffoddwyr tân'
Dywedodd Mr Wrack bod y gwasanaethau tân yn achub dros 200 o bobl bob mis yng Nghymru, a hynny gyda 300 yn llai o ddiffoddwyr nag yn 2010.
"Rydyn ni wastad yn fodlon trafod rôl diffoddwyr tân, yn amodol ar drafodaethau, ariannu, hyfforddiant ac adnoddau," ychwanegodd.
"Ond dylai Llywodraeth Cymru gadw mewn golwg nad meddygon, nyrsus, parafeddygon na gweithwyr cymdeithasol mo diffoddwyr tân."
Roedd Mr Wrack yn ymateb i ddatganiad gan y gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth tân, Hannah Blythyn.
Dywedodd hithau bod yna "botensial amlwg" i'r gwasanaeth tân gefnogi'r GIG - cam fyddai'n sicrhau "canlyniadau gwell ac arbedion sylweddol".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mewn ymateb i sylwadau Mr Wrack bod "ehangu rôl diffoddwyr tân wedi cael ei drafod yn helaeth dros nifer o flynyddoedd gyda'r FBU" trwy'r cyfundrefnau cenedlaethol a bod yr FBU "wedi mynegi cefnogaeth mewn egwyddor i'r fath ehangu".
Ychwanegodd bod "cyfraddau mynychtra tanau wedi gostwng 30% ers 2010 ac i sicrhau bod swyddi diffoddwyr tân yn cael eu gwarchod rydym eisiau manteisio ar eu sgiliau ac amlhau eu gwrth o fewn y cymunedau maen nhw eisoes yn eu gwasanaethu yn ffyddlon".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2020