'ASau Cymru yn cael eu trin yn israddol'
- Cyhoeddwyd
Yn ôl un cyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, mae aelodau seneddol o Gymru yn cael eu trin yn "israddol" oherwydd system bleidleisio ar gyfer Lloegr yn unig yn Nhŷ'r Cyffredin.
Dywed Stephen Crabb AS nad yw'r ffaith fod ASau o Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael "dweud eu dweud" ar faterion sy'n berthnasol i Loegr yn unig "wedi gwneud dim" i gryfhau y DU.
Ddydd Mawrth cafodd ASau Plaid Cymru a'r SNP eu cyhuddo o gyflawni "stynt" seneddol wedi iddynt gael eu rhwystro rhag pleidleisio ar fesur iechyd oedd ond yn berthnasol i Loegr.
Cafodd y gyfundrefn pleidleisiau o Loegr ar gyfer cyfreithiau Lloegr ei chyflwyno wedi refferendwm annibyniaeth yr Alban yn 2014.
'Gwan ac annerbyniol'
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales y BBC, mae cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn dweud: "Mae'n rhyfedd - dyma un o'r pethau cyfansoddiadol lleiaf defnyddiol sydd wedi digwydd. Dyw e ddim wedi gwneud dim i gryfhau'r Undeb.
"Weithiau mae e'n gwneud ASau Cymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban i deimlo'n eilradd a dyw e ddim wedi cryfhau'r glud sy'n dal y Deyrnas Unedig gyda'i gilydd.
"Mae'n adnewyddiad cyfansoddiadol a seneddol sydd ddim wedi gwneud fawr ddim yn fy marn i," ychwanegodd.
Yn dilyn pleidlais ar annibyniaeth Yr Alban, pan roedd Mr Crabb yn Ysgrifennydd Cymru, fe wnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU basio cyfraith yn 2017 a oedd yn newid pwerau Cynulliad Cymru.
Mae AS Preseli Penfro hefyd yn dweud yn ystod y cyfweliad: "Rwyf wedi dod i'r casgliad fod y trefniadau datganoli presennol yn wan ac yn annerbyniol.
"Beth yw'r ateb? Does neb yn gallu rhoi ei fys ar hynny eto. Y peryg yw ein bod yn stryffaglo am nad oes datrysiad clir."
'Annibyniaeth yn creu diddordeb'
Dangosodd pôl piniwn YouGov, dolen allanol ar gyfer Prifysgol Caerdydd ac ITV Cymru ddechrau'r wythnos bod y gefnogaeth i gael gwared â'r Cynulliad Cenedlaethol a chael annibyniaeth i Gymru yn gymharol gyfartal.
Wrth gael ei holi am y pôl piniwn dywedodd Stephen Crabb: "Mae hynna yn awgrymu fod yna anniddigrwydd cynyddol am sut mae pethe ar hyn o bryd - yn gyfansoddiadol ac yn economaidd.
"Mae wastad yn ddifyr pan mae polau piniwn yn dangos bod cefnogaeth i annibyniaeth - mae hynny'n creu diddordeb.
"Dyw polau piniwn sy'n dangos cefnogaeth i ddiddymu datganoli ddim yn cael yr un sylw gwleidyddol, a phetawn i yn un o'r rhai a fyddai yn gwneud penderfyniadau yn y Senedd ac yn rhan o Lywodraeth Cymru mi fyddwn i yn nerfus iawn am y ffigyrau yna gan ei fod yn arwydd peryglus ar gyfer datganoli."
Mae Politics Wales ar BBC 1 Cymru am 10:00 fore Sul 9 Chwefror
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019