Stephen Crabb i gadeirio'r Pwyllgor Materion Cymreig
- Cyhoeddwyd
Mae AS Preseli Penfro, Stephen Crabb wedi cael ei ddewis i olynu David Davies fel cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig.
Dywedodd Mr Crabb, yr unig AS i gael ei enwebu ar gyfer y rôl, ei fod "wrth ei fodd" ar ôl cael ei ddewis.
Daeth y swydd yn rhydd wedi i Mr Davies gael ei benodi'n is-weinidog yn Swyddfa Cymru yn dilyn yr etholiad cyffredinol.
Gwaith y pwyllgor o ASau ydy craffu ar bolisïau Llywodraeth y DU sydd yn cael effaith ar Gymru.
Mae Stephen Crabb wedi bod yn AS ers 2005, ac fe dreuliodd gyfnodau fel Ysgrifennydd Cymru a'r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.
Ond fe ymddiswyddodd o'i rôl yn y cabinet ym mis Gorffennaf 2016 yn dilyn honiadau ei fod wedi gyrru negeseuon awgrymog i ddynes yn ei 20au.
Roedd wedi rhoi ei enw yn yr het ym mrwydr arweinyddol y Ceidwadwyr i olynu David Cameron fel prif weinidog, cyn penderfynu'n ddiweddarach i gefnogi Theresa May.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2016