Cyhuddo rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon o ffrwgwd mewn tafarn
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caernarfon a'i wraig wedi mynd o flaen llys mewn cysylltiad â digwyddiad honedig mewn tafarn.
Cafodd Huw Griffiths, 43, ei gyhuddo o achosi ffrwgwd mewn tafarn yn Wrecsam ym mis Gorffennaf y llynedd.
Mae ei wraig, Siân Louise Griffiths, sydd hefyd yn 43, wedi ei chyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol, o ymosod ar ddynes arall ac o ymosod ar heddwas.
Roedd y cyhuddiadau'n deillio o ddigwyddiad yn nhafarn y Llew Coch yn Marford ger Wrecsam, lle mae'r ddau'n byw, ar 13 Gorffennaf 2019.
Clywodd Llys Ynadon Yr Wyddgrug fod y dafarn "yn eithaf prysur ar y pryd" a bod Ms Griffiths wedi ymddwyn mewn modd "ymosodol iawn" tuag at Jessica Helen Waterhouse, cyn ymosod arni.
Yn ôl yr erlyniad cafodd gwydr gwin ei ddefnyddio yn ystod yr ymosodiad.
Clywodd y llys fod Mr Griffiths wedi taro dyn arall gyda'i ben pan geisiodd hwnnw ymyrryd i ddod â'r ffrwgwd i ben.
Bydd yr achos llawn yn erbyn y ddau yn cychwyn ar 13 Mawrth.