Dynes yn ei 50au wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae dynes yn ei 50au wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr dros y penwythnos.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys eu galw i'r digwyddiad ar lôn gefn rhwng Afon Dulais a Phantygwyn, Capel Dewi am tua 15:00 brynhawn Sadwrn.
Dywedodd y llu mai un car - Nissan NV200 Acenta llwyd - oedd yn rhan o'r digwyddiad, a bod y gyrrwr wedi marw yn y fan a'r lle.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion i gysylltu â'r llu.