Cynghorwyr Sir Gâr yn gwrthod cais cartref gofal
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi gwrthod rhoi caniatâd cynllunio i gais dadleuol oedd am droi tŷ preifat yn Llanelli yn gartref gofal.
Roedd swyddogion cynllunio'r sir wedi argymell caniatáu cynllun cwmni Freshstart Care i sefydlu cartref i dri o blant yn Llwynhendy.
Roedd pobl leol wedi mynegi pryderon gan ddweud nad oed y safle yn addas.
Yn ôl rhai byddai troseddwyr ifanc yn gallu cael eu cartrefu yno - ond gwadu hynny wnaeth Freshstart Care.
Fe wnaeth aelodau pwyllgor cynllunio Sir Caerfyrddin wneud eu penderfyniad ar ôl ymweld â'r safle ddydd Mawrth.
Gwrthododd y cwmni wneud unrhyw sylw yn dilyn y penderfyniad.
Yn eu cais, dywedodd Freshstart Care y byddai rhif 2 Erw Las yn gartref i blant "bregus, dan anfantais".
Roedd cyngor gwledig Llanelli, sy'n cynnwys Llwynhendy, wedi disgrifio'r cais fel un "anaddas" fyddai'n cael effaith "niweidiol" ar gymdogion.
'Effaith ofnadwy'
Un o'r rhai oedd yn ymgyrchu yn erbyn y cynllun oedd Ian Morgan, wnaeth annerch y pwyllgor cynllunio gyda rhai o bryderon pobl yr ardal.
"Fi'n falch iawn oherwydd byddai'r cais yma wedi cael effaith ofnadwy ar y fenyw sydd yn byw drws nesaf," meddai.
"Dylen nhw ddim cael cartrefi plant mewn tai semi-detached.
"Mae'r plant sydd yn dod yn fregus, wedi cael trafferthion yn eu bywyd.
"Y bwriad oedd cael plant o ardaloedd eraill, y tu hwnt i Sir Gâr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2019