Owen Williams allan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad
- Cyhoeddwyd
Mae'r maswr Owen Williams allan o weddill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i linyn y gar.
Fe gafodd y chwaraewr 27 oed ei anafu wrth wneud ymarferiadau cynhesu cyn y gêm yn erbyn Iwerddon ddydd Sadwrn.
Roedd Williams i fod i ddechrau ar y fainc, ond bu'n rhaid iddo ildio ei le i Jarrod Evans.
Dyw Cymru heb enwi unrhyw un i gymryd lle Williams - sydd hefyd yn gallu chwarae fel canolwr - hyd yma.
Yn ystod y golled i Iwerddon, bu'n rhaid i faswr Cymru, Dan Biggar adael y cae ar ôl methu asesiad meddygol ar ôl anaf i'w ben.
Mae Cymru eisoes heb y maswyr Gareth Anscombe a Rhys Patchell oherwydd anafiadau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2020