Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Iwerddon 24-14 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Tomos Williams yn sgorio i Gymru yn yr hanner cyntafFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Tomos Williams yn sgorio i Gymru yn yr hanner cyntaf

Colli fu hanes Cymru yn erbyn y Gwyddelod oddi cartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi i Iwerddon gael pedwar cais a dau drosiad llwyddiannus.

Y Gwyddelod a sgoriodd gyntaf yn Stadiwm Aviva - cais gan Jordan Lamour wedi 21 munud ond methodd Johnny Sexton y trosiad.

Cyn hanner awr o chwarae tro Cymru oedd hi wrth i Tomos Williams sgorio cais ac fe wnaeth Dan Biggar drosi yn llwyddiannus gan roi'r crysau cochion ar y blaen.

Ond o fewn pum munud fe sgoriodd Tadgh Frlon i adfer mantais Iwerddon ac fe drosodd Johnny Sexton yn llwyddiannus.

Y sgôr ar yr egwyl oedd Iwerddon 12-7 Cymru.

Ychydig fewn i'r ail hanner fe sgoriodd Iwerddon eto - Josh van der Flier y tro hwn ac fe wnaeth trosiad llwyddiannus Sexton gynyddu sgôr y Gwyddelod i 19-7.

Disgrifiad,

'Gormod o gamgymeriadau yn erbyn y Gwyddelod,' medd Ken Owens, bachwr Cymru

Wedi chwarae mwy mentrus roedd Cymru yn gobeithio eu bod wedi sicrhau ail gais wedi i Hadleigh Parkes wibio drwy ganol amddiffyn Iwerddon a gollwng y bêl dros y llinell ond ni chafodd y cais ei ganiatáu ar y sail bod Cymru wedi colli gafael ar y bêl.

Y Gwyddelod a gafodd bumed cais y gêm ac fe sicrhaodd cais Andrew Conway bwynt bonws hefyd.

Ond wedi nifer o rwystredigaethau fe ddaeth cais arall i'r Cymry cyn diwedd y gêm gan Justin Tipuric ac fe wnaeth Leigh Halfpenny drosi'n llwyddiannus

Bydd Cymru yn wynebu Ffrainc nesaf yn y bencampwriaeth a hynny adref ar Chwefror 22.

Wedi'r gêm dywedodd bachwr Cymru, Ken Owens, fod y Cymry wedi gwneud gormod o gamgymeriadau i sicrhau buddugoliaeth.