Sut wnaeth yr heddlu ddal y llofrudd bwa croes
- Cyhoeddwyd
Gyda chlogwyni serth yn disgyn i'r môr a mynyddoedd Eryri yn y pellter, mae'r olygfa o Gof Du yn un trawiadol.
Dafliad carreg o'r tŷ mae llwybr yr arfordir yn denu cerddwyr i'r ardal, ond mynd ar ei hyd i ladd wnaeth un person y llynedd.
Gerald Corrigan oedd yn byw yn Gof Du - darlithydd wedi ymddeol symudodd i'r ardal ger Caergybi 22 mlynedd yn ôl.
Roedd yn byw yn y tŷ, sydd rhwng traeth Porth Dafarch ac Ynys Lawd, gyda'i bartner Marie Bailey, 64.
Roedd yn gofalu amdani gan fod ganddi sglerosis ymledol.
Gyda'r nos ar 18 Ebrill y llynedd roedd ei bartner wedi mynd i'w gwely tua 21:00 tra bod Mr Corrigan wedi aros ar ei draed i wylio'r teledu.
Doedd dim byd anarferol yn hynny - roedd yn dderyn nos a hithau'n berson bore.
Ar ôl hanner nos fe newidiodd pethau.
Tua 00:30, ag yntau newydd orffen gwylio rhaglen, fe ddiflannodd y signal teledu.
Penderfynodd y cyn-ddarlithydd ffotograffiaeth a fideo fynd allan i geisio trwsio'r ddysgl loeren.
Wrth gamu allan i'r tywyllwch, roedd yn cerdded mewn i drap.
10 metr i ffwrdd, ar yr ochr arall i'r clawdd, roedd rhywun yn cuddio ac yn disgwyl amdano.
Wrth i Gerald Corrigan blygu i lawr at y lloeren fe deimlodd boen ofnadwy - roedd yn meddwl ei fod wedi cael sioc drydanol.
Mewn poen a phanig llwyddodd i fynd yn ôl i'r tŷ.
Roedd ei bartner wedi deffro ar ôl clywed ei waedd a galwodd 999 gan feddwl ei fod wedi cael trawiad ar y galon, ond doedd hynny ddim yn gwneud synnwyr.
Roedd yn gwaedu'n drwm ac roedd ei fraich wedi torri hefyd.
Am 01:00, fe gyrhaeddodd y parafeddygon. Erbyn hyn roedd Mr Corrigan mewn sioc ar ben y grisiau ac yn gofyn am ocsigen wrth i bawb geisio ei helpu a datrys beth ddigwyddodd iddo.
Canfod y saeth
Roedd yr un person oedd yn gwybod wedi hen ddianc ac yn ei gartref yn barod, ond roedd wedi gadael cliw ar ei ôl oedd ar fin cael ei ddarganfod.
Un o'r parafeddygon gafodd hyd iddo.
Roedd wedi mynd allan i ardd Gof Du. Fe welodd bod y giât rhwng yr ardd a'r cae drws nesa' - ger y llwybr cyhoeddus - yn agored.
Yna, yng ngolau ei fflach lamp fe welodd saeth finiog gyda gwaed arno ar y gwair yn yr ardd.
Wrth i Gerald Corrigan gael gofal dwys yn Ysbyty Brenhinol Stoke a'r heddlu ddechrau ymchwilio, daeth y darlun yn glir.
Roedd wedi ei saethu gyda bwa croes pwerus - arf tawel fyddai wedi ei thanio heb iddo glywed dim.
Aeth y follt trwy ei gorff, gan dorri ei goluddyn, ei dduegau (spleen), a niweidio ei stumog, iau a chleisio'r galon.
Roedd y follt hefyd wedi torri ei fraich.
Dechreuodd ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru. Un ddamcaniaeth oedd mai damwain oedd y cyfan.
Apeliwyd am wybodaeth gan unrhyw un oedd yn ymwneud â hela neu reoli pla yn ardal Ynys Lawd ar y noson.
Ar 11 Mai bu farw Gerald Corrigan.
Roedd y gymuned mewn sioc.
Dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes ar y pryd: "Mae'n ardal braf, bydd pobl mewn sioc.
"Mae'n ardal mor dawel, mae hyn yn gwneud i chi feddwl 'beth sy'n digwydd?'"
Ond roedd yr heddlu eisoes wedi cael gwybodaeth fyddai'n eu harwain at y llofrudd.
Ychydig ddyddiau ar ôl y digwyddiad roedd cyfarwyddwr Outdoorhobbies wedi cysylltu yn cynnig help. Mae'r cwmni yn gwerthu mwy o fwâu croes nag unrhyw gwmni arall ym Mhrydain.
Gofynnwyd am restr o bobl oedd wedi prynu bwa croes ganddyn nhw yn y 10 mlynedd diwethaf. Roedd un person yn sefyll allan.
Dyn oedd wedi prynu arf wythnos yn unig cyn y llofruddiaeth ac yn byw ar Ynys Môn.
Ei enw oedd Terence, neu Terry Whall.
Yn wreiddiol o Loegr, roedd y gŵr 39 oed erbyn hyn yn byw ym mhentref Bryngwran, ger Caergybi, ac yn gweithio fel therapydd chwaraeon a hyfforddwr personol.
Ar ei sianel YouTube roedd fideos ohono yn hyfforddi Tai Chi a hunan-amddiffyn.
Roedd un peth yn creu penbleth - doedd y bwa croes oedd o wedi ei brynu, am £750, heb ei gyrraedd tan ar ôl i Gerald Corrigan gael ei ladd.
Pan holwyd o gan yr heddlu fe soniodd bod ganddo fwa croes o'r blaen, ond roedd wedi ei werthu rhai misoedd ynghynt.
Dywedodd bod dyn wedi galw i'w dŷ yn gobeithio prynu fan ganddo, a bod y dyn wedi gweld Whall yn defnyddio'r bwa croes a'i brynu ganddo am £180. Ni chafodd yr heddlu hyd i'r arf.
Fe wnaeth yr heddlu ddarganfyddiad arall drwy edrych ar gyfrif Terry Whall ar wefan Amazon.
Ar 1 Mawrth fe brynodd lafnau llydan gwyrdd - yr un lliw â'r rhai a laddodd Mr Corrigan - a fis yn ddiweddarach fe brynodd saethau bwa croes.
Yn yr achos yn erbyn Whall, fe glywodd y rheithgor mai dim ond dau berson yn y DU oedd wedi prynu'r cyfuniad o saethau a llafnau a laddodd Gerald Corrigan yn y flwyddyn cyn ei farwolaeth.
Pan aeth yr heddlu i archwilio tŷ Terry Whall roedd y rhain "wedi diflannu".
Dinistrio car a thystiolaeth
Fe ddiflannodd rhywbeth arall bythefnos ar ôl iddyn nhw holi Terry Whall am y tro cyntaf - car ei bartner.
Yn ffodus i'r heddlu, roedd yn gar modern oedd yn storio tystiolaeth bwysig am symudiadau Whall.
Fe gafodd y Land Rover Discovery gwyn ei ddarganfod wedi'i losgi'n ulw mewn chwarel yn ardal Llanllechid, ger Bangor, ar 3 Fehefin.
Mae dau berson wedi cyfaddef i'r llosgi yn barod ac yn disgwyl cael eu dedfrydu.
Cafodd dyn arall, Gavin Jones, sy'n 36 oed ac o Fangor, hefyd ei ganfod yn euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
O ganfod pwy oedd yn berchen y car, fe wnaeth yr heddlu ymchwilio ymhellach.
Ar y noson pan laddwyd Gerald Corrigan, dim ond Terry Whall oedd yn gallu defnyddio'r Land Rover gan fod ei bartner, Emma Roberts, i ffwrdd.
Roedd yn gar modern ac felly'n cario teclyn 'telematic' sy'n cofnodi holl weithredoedd y cerbyd.
Mae'r teclyn yn cadw pob math o wybodaeth - manylion siwrnai, pryd mae'r injan yn rhedeg, pryd mae drysau a'r gist yn cael eu hagor a'u cau.
Gan fod y car wedi ei losgi'n ulw roedd y teclyn a'r cyfarpar GPS yn y car - ac unrhyw wybodaeth dechnegol oedd wedi ei storio ynddyn nhw - wedi'u difrodi'n llwyr.
Ond roedd y data eisoes yn ddiogel yn bell i ffwrdd yn rhywle arall.
Y wybodaeth dal yno
Roedd yr holl wybodaeth yn cael ei fwydo yn ôl yn awtomatig i wneuthurwyr y cerbyd a'i storio'n ganolog gan gwmni Jaguar Land Rover.
Felly os mai ymgais i ddinistrio tystiolaeth oedd llosgi'r car, doedd hynny heb weithio.
Yn ôl Nick Harvey, un o reolwyr cwmni telematics Plant-I ym Machynlleth, mae wedi dod yn fwyfwy cyffredin i ddefnyddio'r dechnoleg mewn ymchwiliadau pan nad ydy'r data ar gael yn y cerbyd.
Eglurodd wrth BBC Cymru: "Lle bynnag mae'r cerbyd yn mynd mae'n gyrru data i cloud - dim ots beth sy'n digwydd i'r cerbyd mae'r wybodaeth dal yno.
"Rydyn ni wedi edrych ar ymchwiliadau damweiniau, yswiriant ac achosion o smyglo pobl, cerbydau yn mynd dramor a dod nôl ac mae'r heddlu wedi mynd at y cwmni i weld lle mae'r cerbyd wedi bod."
Mae data yn gallu ymddangos yn sych a diflas, ond dro arall mae'n creu darlun byw.
Yn ôl yr heddlu, mae'r data oedd yng nghrombil systemau data Jaguar Land Rover yn dangos symudiadau Whall ar noson y llofruddiaeth ac yn cynllunio'r cyfan 24 awr ynghynt:
17 Ebrill - noson cyn y llofruddiaeth
21:18 - y Land Rover Discovery yng nghartref Whall, ym Mryngwran;
21:20 - tanio'r injan;
21:42 - diffodd yr injan. Mae'r car erbyn hyn ar y ffordd gul sy'n arwain at gartref Mr Corrigan. (Roedd lluniau camerâu cylch cyfyng gerllaw Gof Du hefyd yn dangos goleuadau car ar y ffordd yr adeg yma);
22:04 - drws y car yn agor a chau. (Mae'r camerâu cylch cyfyng yn dangos dau olau yn cael eu troi ymlaen yn Gof Du a char yn gadael);
22:11 - injan y car yn cael ei ddiffodd. Mae'r car nawr wedi teithio tua milltir ac wedi ei barcio ym Mhorth Dafarch;
23:52 - awr a hanner ar ôl iddo gael ei ddiffodd, mae'r injan yn cael ei danio eto;
00:09 - yr injan yn cael ei droi i ffwrdd, yn ôl yng nghartref Whall.
Y noson ganlynol, darlun tebyg sy'n cael ei greu gan ddata'r car - a hefyd data cwmni Sky TV y tro yma.
18 Ebrill
22:00 - drws y car yn agor tu allan i gartref Whall;
22:50 - cist y car yn agor a chau - Whall yn rhoi'r arf yn y cerbyd meddai'r heddlu. Mae'r injan yn cael ei danio;
23:10 - y car ym Mhorth Dafarch;
23:11 - cist y car yn cael ei agor a'i gau. Dyma Whall yn nôl y bwa croes meddai'r heddlu;
00:28 - data Sky yn dangos bod Mr Corrigan wedi stopio gwylio rhaglen ac nad oedd signal lloeren yn bodoli. Fe gafodd Mr Corrigan ei saethu un ai 00:29 neu 00:30. Ffoniodd Marie Bailey 999 am 00:34;
00:42 - tua 12 munud ar ôl i Mr Corrigan gael ei saethu, mae cist y Land Rover yn cael ei agor a'i gau;
00:57 - injan y cerbyd, oedd bellach yn nhŷ Whall, yn cael ei diffodd. Drws y car yn agor a chau, a'r gist yn cael ei agor;
01:02 - cist y car yn cau ar ôl cael ei adael ar agor am bum munud. Yn ôl yr heddlu, dyma pryd roedd Whall yn symud y bwa croes a'i guddio yn rhywle arall.
Damcaniaeth yr heddlu oedd bod Whall wedi parcio ei gar ym maes parcio'r traeth fin nos, estyn yr arf o gist y car a cherdded ar hyd llwybr yr arfordir tuag at Gof Du.
Taith cerdded o tua 10 munud - ac ar ôl mynd heibio maes carafannau bychan ar ddechrau'r daith, fyddai neb o gwmpas tan gartref Gerald Corrigan.
Pan gafodd Whall ei holi gan yr heddlu am y data, fe gyfaddefodd ei fod yn yr ardal ar noson y llofruddiaeth.
Doedd o ddim yn adnabod nac erioed wedi cyfarfod Mr Corrigan na'i bartner Ms Bailey, meddai.
Cyd-ddigwyddiad llwyr oedd y cyfan meddai wrth y llys, gan ddweud ei fod yno yng nghwmni ei gyfaill, Barrie Williams, a bod y ddau ddyn mewn perthynas.
Dywedodd bod y ddau wedi teithio i faes parcio traeth Porth Dafarch a chael rhyw mewn caeau cyfagos.
Roedd wedi dweud wrth blismyn ei fod wedi agor cist y car i symud bag yn cynnwys menig rwber, cyffion ac olew babi.
Mynnodd nad oedd wedi sôn am hyn mewn cyfweliadau blaenorol gan ei fod yn ofni'r effaith bosib ar ei blant a'i fusnes.
Ond yn ystod yr achos fe wnaeth Barrie Williams ei hun roi tystiolaeth - gan wadu ei fod mewn perthynas gyda Whall ac na welodd y diffynnydd y noson honno.
Doedd gan Whall nawr ddim alibi credadwy.
Euog o lofruddiaeth
Doedd y rheithgor ddim yn ei goelio. Fe'i cafwyd yn euog o lofruddio gan y rheithgor ddydd Llun.
Ar ôl y ddyfarniad fe siaradodd Fiona Corrigan, merch Gerald Corrigan, am y sioc o glywed y newyddion am y saethu gan bod ei thad "yn ddyn da".
"Dim ond person arferol yn mwynhau ei ymddeoliad," ychwanegodd.
"Roedd yn mwynhau cysgu i fewn yn y bore, paned dda a darllen llyfrau. Roedd yn caru ffilmiau Laurel and Hardy a thynnu lluniau blodau a mynyddoedd.
"Fydd ein bywydau ni fyth 'run fath."
I'r heddlu roedd yn ddiweddglo i'r ymchwiliad mwyaf o'i fath fu ar Ynys Môn ers blynyddoedd - gyda dros 50 o blismyn yn gweithio arni, a chafodd dros 5,000 o ddogfennau eu creu.
Dywedodd Dewi Jones, Tîm Digwyddiadau Difrifol Heddlu Gogledd Cymru: "Credai Terence Whall ei fod wedi cynllunio a chyflawni'r llofruddiaeth berffaith.
"Nid oedd unrhyw dystiolaeth fforensig, ni chafwyd tystiolaeth gan lygad dystion uniongyrchol i'r saethu, ac yn wir, ni welodd neb ef yn mynd i nac o'r fan.
"Roedd hwn yn achos a seiliwyd ar dystiolaeth amgylchiadol.
"Fodd bynnag, mae'r achos hwn wedi cael ei ddatrys gennych chi, ein cymuned. Rydym wedi cael cymorth gwych gan dystion.
"Mae cyfuniad o bobl leol, pobl ar eu gwyliau, arbenigwyr a busnesau wedi rhoi'r dystiolaeth oedd ei hangen i ni, eich gwasanaeth heddlu.
"Mewn lladd gwaed mor oer, yr wyf yn deall amharodrwydd cychwynnol rhai unigolion, ond yr wyf yn fythol ddiolchgar i bawb a oedd â'r dewrder i ddod ymlaen a thrwy hynny ddiogelu ein cymuned."
Ychwanegodd Iwan Jenkins, o Wasanaeth Erlyn y Goron: "Gan fod neb wedi gweld y weithred fe roedd yn anodd dod o hyd i dystiolaeth digon cadarn i ddechrau.
"Trwy ymholiadau'r heddlu, rhai technegol a chyfrifiadurol ddaethon nhw o hyd i sawl darn o wybodaeth oedd yn mynd â thrywydd yr achos yn ôl i'r diffynnydd yma."
I bobl Ynys Môn roedd y ffaith bod y fath lofruddiaeth wedi digwydd mewn ardal tawel yng nghefn gwlad yn sioc.
Un oedd yn adnabod Whall, ers gweithio gydag o yn hyfforddi ffitrwydd mewn clwb yn Llangefni, oedd John Ginnelly.
"Roedd o yn sioc. Doedda ti ddim yn disgwyl iddo fo fod fel yna 'de," meddai.
"Roedd o'n licio 'neud ei bres de. Dweud rŵan fasa fo'n 'neud one to one personal training, fasa fo'n dod â chdi nôl a dweud 'tisho gwneud hyn a llall' - fel dyn busnes.
"Ond faswn i'm yn d'eud bod o'n foi annifyr na dim byd - roedd o'n foi digon da."
Doedd Neville Evans, sy'n rhedeg tafarn yr Iorwerth Arms yn y pentref a brodor o'r pentref, ddim yn ei adnabod - ond yr un ydy'r sioc.
"Sioc fawr i ran fwya', er dwi'm yn meddwl bod llawer o bobl fel fi yn adnabod unrhywun ohonyn nhw a bod yn onast, er bosib eu bod nhw'n byw yn y gymuned," meddai.
"Mae o'n poeni rhywun bod o'n rhoi enw drwg i'r pentref yn enwedig pan nad oes gan y bobl sydd wedi gwneud y peth ddim cysylltiad efo'r pentref yn wreiddiol.
"Ro'n i'n arfer adnabod pawb oedd yn byw yn y gymuned, prin dwi'n adnabod traean ohonyn nhw bellach - mae nifer o bobl yn symud i mewn ddim yn adnabod nhw i fod yn berffaith onast."
Dirgelwch yn parhau
Ond wrth i Whall gael ei garcharu am ladd Gerald Corrigan, mae nifer o gwestiynau heb eu hateb. Yr amlycaf ydy: pam?
Yn ystod y gwrandawiad pum wythnos yn Llys y Goron yr Wyddgrug, ni roddwyd unrhyw reswm dros y llofruddiaeth, er bod yr erlyniad wedi awgrymu mai arian oedd tu cefn i'r cyfan gan fod Terry Whall mewn dyled o ddegau o filoedd o bunnoedd.
Mae cwestiynau eraill i'w hateb hefyd.
Cymeriad amlwg yn yr achos - er nad oedd o yn y llys - oedd dyn sy'n byw ar y fferm ger Caergeiliog, Ynys Môn.
Doedd Richard Wyn Lewis ddim yn dyst nac yn ddiffynydd, ond cafodd ei enw ei grybwyll bron yn ddyddiol yn ystod yr achos.
Yn ystod yr achos honnodd partner Gerald Corrigan, Marie Bailey ei fod o wedi cael £250,000 gan y cwpl drwy dwyll, a bod Mr Lewis wedi bod yn tyfu canabis ar eu tir.
Clywodd y llys hefyd bod Whall a Wyn Lewis wedi cael ffrae am arian rhyw chwe wythnos wedi'r llofruddiaeth.
Cafodd Mr Lewis ei arestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio, ac o dwyll, cyn cael ei ryddhau'n ddiweddarach.
Dydy o ddim wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd - mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dal i ystyried ei achos.
Yr wythnos yma dywedodd Wyn Lewis wrth BBC Cymru ei fod o a Gerald Corrigan yn ffrindiau ers blynyddoedd, a bod y saethu wedi bod yn sioc enfawr iddo.
Gwadodd fod ganddo unrhyw gysylltiad â'r llofruddiaeth.
Bydd Whall yn cael ei ddedfrydu ddydd Gwener, ac wrth iddo baratoi i ddechrau cyfnod hir o dan glo, mae teulu'r pensiynwr wnaeth o ei lofruddio yn dal i chwilio am atebion.
"Tydi bwa croes ddim wedi cael ei ddylunio i ladd yn unig - mae wedi ei ddylunio i rwygo a difrodi," meddai Fiona Corrigan.
"Mae'r arf yma wedi cael ei ddylunio i hela anifeiliaid mawr... a dyna oedd fy nhad. Rhywbeth i'w hela. Efallai na fyddwn ni byth yn gwybod pam."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020