Dyn o Ynys Môn yn euog o lofruddiaeth bwa croes
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ei ganfod yn euog o lofruddio pensiynwr trwy ei saethu gyda bwa croes tu allan i'w gartref ar gyrion Caergybi.
Fe wnaeth Gerald Corrigan, oedd yn 74 oed, farw yn yr ysbyty wythnosau ar ôl cael ei saethu ym mis Mai'r llynedd.
Roedd Terence Whall, sydd yn therapydd chwaraeon a hyfforddwr personol o Fryngwran, wedi gwadu'r cyhuddiadau'n ei erbyn.
Dywedodd ei fod yn cael rhyw gyda dyn arall mewn caeau cyfagos ar y noson.
Cafodd Mr Corrigan, a oedd yn gyn-ddarlithydd, ei saethu yn oriau mân y bore ar 19 Ebrill wrth drwsio lloeren deledu ar wal ei dŷ.
Mae Whall hefyd wedi ei ganfod yn euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol - cyhuddiad yn ymwneud â llosgi car Land Rover Discovery.
Cafodd dyn arall, Gavin Jones, sy'n 36 oed ac o Fangor hefyd ei ganfod yn euog o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder a chynllwynio i gynnau tân yn fwriadol.
Fe blediodd dau ddyn arall - Martin Roberts a Darren Jones - yn euog i gynnau tân yn fwriadol yn gynharach yn yr achos.
Gall Whall ddisgwyl dedfryd o garchar am oes. Bydd y gwrandawiad dedfrydu ddydd Gwener.
Dywedodd Karen Dixon o Wasanaeth Erlyn y Goron ar ddiwedd yr achos: "Fe gynlluniodd Whall yr hyn oedd am wneud ac fe laddodd mewn gwaed oer.
"Mae bwâu croes yn arfau distaw, marwol sy'n gallu achosi anafiadau echrydus, ac yn yr achos hwn roedden nhw'n angheuol.
"Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau'r dioddefwr heddiw, fel drwy gydol y broses gyfreithiol. Rydym yn diolch iddyn nhw am eu cryfder a'u cefnogaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd11 Mai 2019