Gwrthod cais prifathrawes i fyw mewn tŷ fforddiadwy yn Llŷn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Dan ni isio aros mewn cymuned Gymreig'

Mae prifathrawes wedi cael gwybod na fydd hawl ganddi fyw mewn tŷ mae hi'n bwriadu ei godi ym Mhen Llŷn am fod ei chyflog yn rhy uchel.

Mae Nia Ferris a'i chariad Dylan Roberts - a chwaer Dylan, Megan Roberts a'i chariad hi, Sion Flynn - wedi cael caniatâd gan Gyngor Gwynedd i godi dau dŷ fforddiadwy ym mhentref Llanengan ger Abersoch.

Ond fydd dim hawl gan Nia - sydd newydd ei phenodi'n bennaeth mewn ysgol gynradd leol - fyw yn y tai gan fod ei hincwm bellach yn uwch na'r trothwy o £45,000 ar gyfer tŷ fforddiadwy.

Yn ôl Nia, y dewis sydd wedi ei awgrymu iddi ydy codi'r tŷ ond peidio byw ynddo, neu chwilio am incwm llai.

Dywedodd Liz Saville Roberts, AS Dwyfor Meirionnydd, y dylai mwy o ystyriaeth gael ei roi i swyddi "hanfodol" wrth asesu ceisiadau cynllunio.

Dywed Cyngor Gwynedd fod polisïau tai fforddiadwy wedi eu creu i sicrhau bod pobl ar incwm is yn gallu prynu cartrefi yn eu cymunedau.

"'Dan ni ddim isio adeiladu tŷ i'w werthu, 'dan ni isio byw yma. Ac os na chawn ni fyw yma dydy o ddim gwerth i ni," meddai Nia.

"Be' sy'n bechod ydy bod o'n gwneud i rywun feddwl, 'taswn i'n wedi gwybod flwyddyn yn ôl wrth dderbyn y swydd, fyswn i wedi meddwl ddwywaith ella'.

"Taswn i heb dderbyn y swydd, mi fyswn i'n gallu byw yma. Mae'n drist mai fel 'na mae rhywun yng Ngwynedd yn gorfod meddwl."

Ychwanegodd Megan Roberts: "Fyswn i'n torri fy nghalon yn meddwl gorfod symud o'na. Dwi wedi cael fy magu yna, fyswn i ddim yn gallu meddwl am fyw yn nunlle arall, m'ond yn Llanengan.

"Gan fod fy nheulu'n byw yna, dwi 'di mynd i'r ysgol yna a dwi isio rhoi cyfle i'm mhlant i yn y dyfodol gael eu magu yna a mynd i'r ysgol hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Fydd dim hawl gan Nia Ferris fyw yn y tai newydd am fod ei chyflog yn rhy uchel

Rhwystr arall i'r cyplau ydy'r prisiau tai yn Llanengan, sy'n cael eu gyrru gan y farchnad dai yn Abersoch.

Ar gyfartaledd roedd tŷ yn Abersoch yn costio £447,589 y llynedd, yn ôl gwefan dai Rightmove.

Mae'r cyplau'n dweud na allan nhw brynu tŷ ar y farchnad agored yn eu hardal leol.

Cafodd y brawd a chwaer, Dylan a Megan - sydd wedi'u magu yn Llanengan - ddarn o dir yn y pentref yn rhodd gan aelod o'r teulu.

Mae Dylan a Sion, sy'n gweithio yn y diwydiant adeiladu, yn dweud y gallan nhw godi'r ddau dŷ yn llawer rhatach.

Ond mae eu breuddwyd o fyw yn eu pentref genedigol yn wynebu bygythiad gan amod cynllunio arall.

Disgownt o 60%

Mae cymal 106 Deddf Cynllunio Tref a Gwlad 1990 yn golygu y byddai'n rhaid i'r eiddo gael ei werthu am ddisgownt sylweddol petai'n cael ei werthu yn y dyfodol.

Byddai gwerth tebygol y tai newydd yn Llanengan yn golygu y byddai angen gostyngiad o 60% ym mhris yr eiddo i gwrdd â'r trothwy presennol ar gyfer tŷ fforddiadwy o £142,000.

Mae'r cyplau'n dweud ei bod hi'n amhosib cael morgais gydag amod gostyngiad o 60% ynghlwm.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Liz Saville Roberts bod angen "rhoi ystyriaeth i swyddi hanfodol" yn y broses gynllunio

Yn ôl Ms Saville Roberts, mae'n bryd adolygu'r polisïau.

"'Dan ni isio gallu dweud bod pobl leol, siaradwyr Cymraeg, yn gallu byw yn y cymunedau yma. Be' sy'n digwydd i nadu hynny rhag digwydd?" meddai.

"Be' sy'n digwydd i nadu pobl efo swyddi hanfodol fel penaethiaid ysgol? Yn y pen arall, mi allai fod yn ofalwyr hefyd - swyddi hanfodol i'n cymunedau.

"Be' sy'n digwydd i wneud yn siŵr bod y polisïau hynny'n addas i bwrpas?

"Dwi'n gwybod mewn ardaloedd o Loegr, mae 'na ystyriaeth yn cael ei roi i swyddi hanfodol. Dwi'n meddwl dylen ni fod yn gwneud hynny fan hyn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ddau gwpl yn benderfynol o fyw yn Llanengan

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai lle'r cynghorau sir yw "diffinio'r angen lleol".

Mewn datganiad helaeth, sydd wedi'i gwtogi, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd bod "sicrhau tai fforddiadwy sy'n cynnig cyfle i drigolion lleol gael berchen eu cartref eu hun yn un o brif flaenoriaethau'r cyngor".

"Wrth gwrs, mae'n bwysig sicrhau fod tai newydd fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu yn parhau i fod yn fforddiadwy i'r dyfodol a dyna pam fod Cytundebau 106 yn aml yn rhan o amodau cynllunio," meddai.

"Nod y polisi cynllunio lleol... ydy darparu tai fforddiadwy i rai sydd mewn gwir angen ac yn gymwys am dai fforddiadwy.

"Yn gyffredinol credir fod y polisi yn ffit i bwrpas ac wedi cyfrannu tuag at ddarparu tai fforddiadwy i gymunedau yng Ngwynedd.

"Fel awdurdod lleol, byddwn yn nodi fod y safle dan sylw yng nghefn gwlad ac ar gyrion clwstwr tai Llanengan.

"Ni fyddai maint y tai na'i pris marchnad agored tebygol (neu bris hefo disgownt llai na 60%) yn sicrhau y byddai'r tai yn fforddiadwy nac yn ymateb i'r anghydbwysedd yn y farchnad dai leol.

"Mae'r cyngor yn cydnabod dymuniad yr ymgeiswyr i adeiladu a byw yn y tai ond byddai caniatáu dau dŷ ar y safle yma heb Gytundeb 106 yn gyfystyr a chaniatáu dau dŷ marchnad agored heb unrhyw reolaeth ar bris na sicrwydd y byddai'r tai yn fforddiadwy yn y dyfodol.

"Hyd yma nid yw'r ymgeisydd wedi arwyddo Cytundeb 106 perthnasol sydd yn golygu nad yw'r caniatâd cynllunio wedi ei ryddhau."