Darogan y bydd Plaid Diddymu'r Cynulliad yn cipio seddi

  • Cyhoeddwyd
Roger Awan-Scully
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Roger Awan-Scully mae'n debygol fydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn ennill rhai seddi yn etholiad 2021

Mae'n debygol y gallai Plaid Diddymu Cynulliad Cymru ennill seddi yn etholiad y Cynulliad yn 2021, yn ôl un academydd blaenllaw.

Dywedodd yr athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Lywdoraethiant Cymru "os bydd cefnogwyr sy'n gwrthwynebu datganoli yn gallu dod at ei gilydd i gefnogi opsiwn eglur arall, bydden nhw'n debygol yn ennill ychydig o gynrychiolaeth yn y Cynulliad."

Mae ffigyrau diwethaf yn awgrymu y byddai 24% o bobl yn pleidleisio i ddiddymu'r Cynulliad.

Ond wrth gynnig ystod o opsiynau ar ddyfodol datganoli i'r rhai a holwyd, cefnogodd mwy na hanner (56%) naill ai'r gyfundrefn bresennol, mwy o ddatganoli, neu annibyniaeth i Gymru.

Yn etholiad diwethaf y Cynulliad, enillodd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru 4.5% o bleidleisiau'r rhestr ranbarthol er gwaethaf eu hadnoddau prin ac ychydig iawn o sylw gan y cyfryngau.

Yn ôl yr Athro Awan-Scully, dydy gwrthwynebiad i'r Cynulliad ddim yn beth newydd:

"Er bod cefnogaeth am ddatganoli wedi cynyddu yn gyffredinol yn y blynyddoedd dilynodd [datganoli], mae dal safbwynt sy'n cael ei gefnogi gan nifer o bobl sydd ddim gwirioneddol yn hoffi'r syniad o lywodraeth sydd wedi ei ddatganoli yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai yn dyfalu y gallai Gareth Bennett sefyll fel ymgeisydd i Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yn etholiad mis Mai nesaf

Yr wythnos yma, dechreuodd Simon Rees, swyddog y wasg Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, weithio i Gareth Bennett, oedd yn arfer bod yn AC i UKIP, ac sydd bellach yn AC annibynnol.

Mae rhai wedi dyfalu y gall Mr Bennett sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad ym mis Mai nesaf, o gofio am gysylltiadau Mr Rees gyda Phlaid Diddymu Cynulliad Cymru.

Dywedodd Mr Rees: "Os fyddai refferendwm fory, bydden ni'n colli", ond mae'n gobeithio bydd ymgeiswyr gyda phroffil amlwg yn gallu rhoi platfform i gael cefnogaeth fwy eang.

Dywedodd bod "datganoli wedi bod yn mynd ymlaen am 20 mlynedd a dydy pobl ddim yn poeni, a ddim yn teimlo bod e 'di helpu nhw.

"Mae pobl yng ngogledd Cymru yn teimlo bod yr holl arian yn cael ei wario yng Nghaerdydd," ychwanegodd.

Cefnogaeth yn amrywio

Mae yna amrywiaeth bychan yn y gefnogaeth ar gyfer diddymu Cynulliad Cymru ar draws Gymru.

Yng Nghaerdydd a Chanol De Cymru, cefnogodd 22% o bobl y syniad o ddiddymu'r Cynulliad, os byddai refferendwm yn cael ei gynnal fory.

Ond yng Ngogledd Cymru a Chanolbarth Gorllewin Cymru, roedd y ganran yn uwch gyda 27% yn cefnogi'r syniad.

Yn Sir y Fflint, pleidleisiodd 62.8% o bobl yn erbyn sefydlu'r Cynulliad yn refferendwm 1997. Ond, erbyn 2011, roedd 62.1% o bleidleiswyr yno yn cefnogi rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad ym Mae Caerdydd.

Y mis yma daeth y cyhoeddiad y byddai'r Cynulliad yn treulio wythnos yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn ystod yr haf er mwyn ceisio "cysylltu" ei waith gyda phobl Cymru.

Safbwyntiau 'eithafol'

Ar ôl Brexit, dywedodd yr athro Awan-Scully gallwn weld symudiad i ffwrdd o'r canol i safbwyntiau mwy eithafol.

Dywedodd: "Rydyn ni dal rhyw bellter o hynny yng Nghymru o ran datganoli, ond dwi'n tybio bod pethau mwy od wedi digwydd, gall fod sefyllfa rhywbryd ble ni'n cael gweld mwy o ddewis rhwng dewisiadau eithafol yn ymwneud ag annibyniaeth a chael gwared ag ymreolaeth yn gyfan gwbl".

Ychwanegodd: "Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yna, ac mae'r rhan fwyaf o bobl a'r rhan fwyaf o bleidiau'n cefnogi ymreolaeth i Gymru o fewn y DU."