Cwest tractor: Rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol

  • Cyhoeddwyd
Ryan David LewisFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ryan David Lewis wedi gweithio ar y fferm ers pedair blynedd ac wedi arfer symud gwartheg o un safle i'r llall

Mae cwest yn Hwlffordd wedi cofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol yn achos gweithiwr fferm 61 oed a fu farw wrth helpu symud da byw.

Bu farw Ryan David Lewis o Lanfyrnach, yn Sir Benfro o'i anafiadau yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin fis Rhagfyr 2017.

Clywodd y gwrandawiad ei fod wedi cael ei wasgu wrth i drelar gludo gwartheg o Fferm Glyneithinog ym Moncath - safle cwmni Caws Cenarth.

Clywodd y cwest bod Mr Lewis wedi gweithio ar y fferm am bedair blynedd, ac yn helpu symud da byw rhwng safleoedd yn rheolaidd.

Mae yna 1,700 o wartheg ar y fferm.

Ffynhonnell y llun, Google

Dywedodd Thomas Harris - rheolwr gyfarwyddwr cwmni Ffosyficer, sy'n rhedeg Fferm Glyneithinog - bod e, ei wraig, Mr Lewis a gweithiwr fferm arall, Gregorz Bunko yn bwriadu symud 16 o wartheg i ddaliad arall ychydig filltiroedd i ffwrdd.

Fe wnaethon nhw ddefnyddio trelar bach a threlar mawr yn cael ei dynnu gan dractor.

Cafodd y trelar mawr ei facio i lon fechan cyn i 14 o wartheg gael eu llwytho arno.

Clywodd y cwest fod Mr Lewis wedi symud i'r bwlch wrth i'r tractor ddechrau symud o'r lon fechan, ac fe gafodd ei wasgu wrth i'r blwch gulhau ger postyn giât.

Dywedodd Mr Bunko ei fod wedi cyflawni'r dasg sawl tro o'r blaen, a doedd e ddim yn gallu gweld bod Mr Lewis yn y bwlch rhwng y trelar a'r postyn.

"Neidies i lawr o'r tractor a helpu [symud] Mr Lewis i'r tŷ," dywedodd wrth y rheithgor.

Wrth grynhoi'r achos cyn i'r rheithgor ystyried eu dyfarniad, dywedodd Crwner Sir Benfro, Mark Layton bod tystiolaeth arbenigol yn awgrymu bod y system symud da byw yn un "hollol resymol" i'r fferm ei gweithredu.