Ail adolygiad i gynllun gwaith £500m Llywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad yn cael ei gynnal wedi i gynllun cymorth swyddi gwerth £500m fethu â chael ei lansio am yr eilwaith.
Bwriad Cymorth Gwaith Cymru (CGC) oedd helpu pobl i ddod o hyd i swyddi, ac roedd i fod i ddechrau ym mis Ebrill 2020.
Byddai'r corff wedi cymryd lle cynlluniau blaenorol tebyg fel ReAct a Thwf Swyddi Cymru.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig ei bod hi'n "hollol annerbyniol" fod y cynllun wedi methu am yr eildro.
Heriau cyfreithiol
Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi dweud y bydd y gefnogaeth bresennol yn parhau ond na fydd CGC yn digwydd fel y bwriadwyd.
Y nod gyda'r cynllun - oedd yn arfer cael ei adnabod fel Cymru'n Gweithio - oedd rhoi cefnogaeth wedi'i deilwra i unigolion er mwyn eu helpu i gael gwaith.
Byddai hynny wedi helpu ymgeiswyr gyda chymorth ar gyfer pethau fel gofal plant, iechyd meddwl a hyfforddiant sgiliau.
Cafodd "gwahoddiad i dendr" ar gyfer y cytundeb £500m ei hysbysebu haf diwethaf.
Fe ddewisodd Llywodraeth Cymru gais buddugol ym mis Rhagfyr, cyn canslo'r broses ym mis Ionawr eleni yn dilyn her gyfreithiol gan un o'r ymgeiswyr eraill.
Dywedodd Mr Skates fod materion wedi codi ynghylch "y broses cymedroli yn arwain at sgorau terfynol y tendrau".
Dyma'r ail waith i'r broses dendro gael ei chanslo - cafodd cytundeb gwerth £617m hefyd ei ollwng yn Rhagfyr 2018 yn dilyn her gyfreithiol.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Mr Skates wrth bwyllgor economi'r Cynulliad fod ail broses o "ddysgu gwersi" bellach wedi dechrau.
"Dydyn ni ddim mewn lle i ddweud sut y byddwn ni'n ei symud ymlaen ar hyn o bryd," meddai.
'Hollol annerbyniol'
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Russell George, ei fod yn "bryderus tu hwnt" nad oedd gwersi wedi eu dysgu o'r broses dendro gyntaf.
"Mae hyn yn hollol annerbyniol ac fe fyddai'n siomedig petai angen ail ymgais i ddysgu gwersi," meddai llefarydd y Ceidwadwyr ar fusnes.
"Ond ddylen ni ddim bod yn ystyried 'tri chynnig i Gymro' ar gyfer proses gaffael ar gyfer rhaglen mor bwysig, a ninnau dal ddim yn gwybod y gost derfynol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Yn dilyn problemau technegol gyda phroses ddiweddar Cymorth Gwaith Cymru, gan gynnwys materion penodol yn ymwneud â'r broses gymedroli yn arwain at sgorau terfynol y tendrau, rydym yn gweithio ar adolygu ein cynlluniau.
"Bydd ein rhaglenni presennol yn parhau i redeg nes y bydd modd sefydlu rhai newydd yn eu lle, ac mae swyddogion ar hyn o bryd yn ystyried sut fath o wasanaeth sydd yn ateb gofynion ein defnyddwyr orau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd22 Awst 2016