Angen 'perchnogi' eglwysi os ydyn nhw am ffynnu
- Cyhoeddwyd
Mae angen i gymunedau "berchnogi" eglwysi os ydyn nhw am ffynnu, yn ôl aelod o weithgor sy'n edrych ar ddyfodol addoldai gwledig.
Bydd Esgobaeth Llanelwy yn ymgynghori er mwyn creu strategaeth eglwysi gwledig dros y misoedd nesaf.
Yn ôl y Parchedig Nia Wyn Morris, sy'n rheithor yn ardal Y Drenewydd, mae'n debygol bydd angen cau eglwysi, ond hynny mewn ffordd "ddoeth".
Mae ardal yr esgobaeth yn cynnwys dros 200 o eglwysi Anglicanaidd yn y gogledd-ddwyrain a'r canolbarth.
Fel rheithor ar eglwys drefol yn Y Drenewydd, Powys, mae Nia Wyn Morris yn arwain eglwys sy'n tyfu, ac sydd hyd yn oed â chynlluniau i ehangu.
Ymhlith y mentrau maen nhw'n eu cynnal mae perfformiadau amgen o'r Beibl gan storïwyr mewn ysgolion.
Mae eglwys arall dan ei gofal, ym mhentref bychan Aberhafesb, yn cynnal boreau coffi masnach deg sy'n denu ymwelwyr o bell.
'Ethos o gariad'
"Os ydach chi'n gofyn pam fod eglwys yn tyfu, 'dwi'n meddwl bod o lot i wneud efo cael ethos o gariad pan fod pobl yn dod drwy'r drws - bod 'na freichiau allan yn dweud 'dewch'.
"A dim 'dewch a gwnewch' ond 'dewch a byddwch yn perthyn'."
Cafodd eglwys Dolfor ger Y Drenewydd ei chau yn ddiweddar, ac mae'r Parchedig Nia Wyn Morris yn credu y bydd eglwysi eraill yn cau yn y dyfodol.
Ond mae'n gobeithio y bydd y strategaeth yn adlewyrchu'r angen i gymunedau "berchnogi" eglwysi fel eu bod yn dod yn adnodd i'r gymuned ehangach.
"'Swn i'n gobeithio bydd eglwysi ddim yn cau ond yn dod yn ganolfannau cymunedol, yn swyddfa bost, yn siop.
"Mae isio i'r gymuned berchnogi'r eglwys os ydyn nhw eisiau hi, dyna fyswn i'n licio'i weld."
'Mannau agored, croesawgar'
Wrth lansio'r gweithgor fis diwethaf, dywedodd Archddiacon Maldwyn, yr Hybarch Ddr. Barry Wilson: "Mae eglwysi gwledig ledled yr esgobaeth am fod yn fannau agored, croesawgar, cynhwysol a pherthnasol sy'n cefnogi eu cymunedau ac yn cynnig lle ysbrydol i bobl leol ac ymwelwyr.
"Mae pryderon wedi codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cynulleidfaoedd yn poeni am y ddelwedd bod trwch yr aelodau'n oedrannus, yr anhawster o ddenu aelodau newydd, yn enwedig teuluoedd ifanc, costau cynnal a chadw adeiladau hynafol ac ariannu'r ddarpariaeth o glerigwyr.
"Fel rhan o'r ymgynghoriad, fe fydden ni'n chwilio am gyfleoedd i sgwrsio gyda chymaint o bobl â phosib mewn cymunedau gwledig er mwyn ceisio deall sut all yr eglwys ymgysylltu'n well gyda phobl a chymunedau, a rhannu'r ffydd Gristnogol yn ehangach, yn enwedig gyda phlant ifanc a'u teuluoedd, y gymuned amaethyddol a'r rhai hynny sy'n byw bywydau ynysig.
"Ceir eisoes enghreifftiau o arferion gwirioneddol dda yn ein heglwysi, llawer ohonyn nhw'n parhau i fod yn galon eu cymunedau lleol, ond fe fydd yr ymgynghoriad hwn yn nodi sut mae modd gwneud yn well, sut i fynd i'r afael rhai o bryderon cynulleidfaoedd a chyfarfod ag anghenion y gymuned gyfan."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd19 Mai 2019
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2019