Arian a chymorth i glybiau rygbi yn dilyn Storm Dennis

  • Cyhoeddwyd
Clwb Rygbi Machen
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Clwb Rygbi Machen yn un o'r rhai a oedd o dan ddŵr ddechrau'r wythnos

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi cynllun i gefnogi clybiau rygbi ar draws Cymru wedi Storm Dennis.

Wedi cyfarfod arbennig yr wythnos hon, mae staff yr Undeb wedi bod yn asesu effaith y storm ar gymunedau rygbi ac yn dweud y byddan nhw'n darparu cymorth ac arian ychwanegol i glybiau sydd wedi dioddef.

Mae cronfa 'amgylchiadau arbennig' yr Undeb wedi clustnodi £100,000 i ddechrau ac mae swyddogion yn bwriadu chwilio am gefnogaeth bellach.

Ddydd Sadwrn bydd arian yn cael ei hel mewn bwcedi yn y gêm ryngwladol rhwng Cymru a Ffrainc yng Nghaerdydd ac mae'r Undeb hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o godi arian.

Cafodd nifer o glybiau eu difrodi - yn eu plith clybiau Bedwas, Risca, Coed-duon a Cross Keys - a does gan nifer o glybiau ddim yswiriant ar gyfer difrod llifogydd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna ddifrod i nifer o glybiau rygbi - yn eu plith Clwb Rygbi Cross Keys

Dywed yr Undeb bod rhai clybiau wedi dweud wrthyn nhw eu bod wedi colli offer rygbi o ganlyniad i'r storm ac yn ogystal â rhoi cymorth tuag at hyn bydd swyddogion yn rhoi cyngor arbenigol ar sut i adfer caeau sydd wedi cael eu difrodi.

Dywedodd Martyn Phillips, Prif Weithredwr URC: "Mae'r rhain yn amgylchiadau eithriadol ac ry'n ni wedi penderfynu neilltuo arian ac adnoddau i glybiau rygbi mewn cymunedau ar draws Cymru.

"Mae arian wedi cael ei glustnodi ar gyfer achosion brys fel rhain ac fe fyddwn yn sicrhau bod arian ac adnoddau yn cyrraedd y llefydd iawn fel ein bod yn targedu'r rhai mwyaf anghenus."

Fel rhan o'r cymorth ychwanegol bydd yr Undeb yn sicrhau bod staff yn treulio diwrnod llawn mewn clwb sydd wedi cael difrod a bydd swyddogion yn cadw golwg ar y sefyllfa yn ystod y diwrnodau a'r misoedd nesaf.