Coed wedi rhwystro ffos, medd Cyfoeth Naturiol Cymru

  • Cyhoeddwyd
dwr yn Pentre
Disgrifiad o’r llun,

Mae dŵr wedi llifo i dai ym Mhentre yng Nghwm Rhondda

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyfaddef y gallai coed gafodd eu dymchwel ganddyn nhw wedi rhwystro dreiniau yn ardal Pentre, gan waethygu'r sefyllfa o safbwynt llifogydd yno.

Roedd Aelod Seneddol y Rhondda, Chris Bryant eisoes wedi dweud fod gan y corff gwestiynau i'w hateb wedi i lifogydd achosi difrod sylweddol yno.

Ychwanegodd bod angen iddynt sefydlu cronfa i roi iawndal i drigolion gwerth "pedair neu bum miliwn o bunnau".

Brynhawn Iau dywedodd Bill Purvis, rheolwr tactegol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru: "Roedd y glaw a ddisgynnodd i afonydd de ddwyrain Cymru dros Storm Dennis yn ddigynsail.

"Cafodd tua 95% o ystâd goediog Pentre a blannwyd yn y 1960au eu dymchwel er mwyn gwaredu coed llarwydd heintiedig. Er bod ein cynllun gwaredu yn dilyn canllawiau ac ymarfer gorau, wrth edrych ar faint o law ddisgynnodd a'r effaith a gafodd hynny mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei ystyried wrth adolygu Storm Dennis.

"O'r lluniau sydd ar gael ar-lein, mae'n amlwg fod peth o'r coed wedi rhwystro'r grid.

"Byddwn yn adolygu ein gweithredoedd fel y gallwn ddysgu gwersi a gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto."

Cafodd swyddogion tân eu galw i stryd ym Mhentre, Cwm Rhondda fore Iau yn dilyn adroddiadau bod dŵr wedi mynd i mewn i dai ar Stryd Pleasant.

Dywedodd un o gynghorwyr Pentre, Shelley Rees-Owen fod "pobl wedi colli popeth".

"Mae'r dŵr sy'n llifo lawr y stryd yn erchyll, yn afiach - dwi erioed wedi gweld dim byd tebyg," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhoddion i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y llifogydd yng nghanolfan gymunedol y Trallwn, Pontypridd

Mwy o arian

Yn y cyfamser mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn barod i gyfrannu mwy na'r £10m sydd eisoes wedi'i addo er mwyn delio ag effeithiau'r llifogydd diweddar.

Ychwanegodd Mr Drakeford fod "pethau'n newid bob awr" wrth i'r tywydd garw a sgil effeithiau Storm Dennis barhau i gael effaith mewn rhai ardaloedd.

Ar hyn o bryd mae un rhybudd llifogydd yn Nyffryn Dyfrdwy rhwng Llangollen a dolau Trefalun.

Mae un dyn wedi sôn am ei brofiad o achub menyw oedd yn sownd ar do car am 12 awr ar y ffin rhwng Sir Fynwy a Chaerloyw.

Fe wnaeth Mark Smith, 51 oed a Geoff Handley eu gorau i'w chadw yn gynnes tan fod y gwasanaethau brys yn cyrraedd fore Mawrth.

Disgrifiad o’r llun,

Fe lwyddodd Mark Smith i afael yn y fenyw a'i chadw yn gynnes trwy ei chofleidio ar ôl mynd ati

"Fe wnes i ei thynnu fyny a'i chofleidio er mwyn ei chadw yn gynnes," meddai Mark Smith.

"Mi oedd hi'n teimlo fel amser hir iawn. O'n i'n meddwl ei bod hi'n mynd i farw, dim amheuaeth am hynny."

Yn oriau mân fore Iau cafodd dynes ei hachub o afon yn Aberhonddu ar ôl cael ei chanfod yn cydio mewn cangen coeden.

Yng Nghastellnewydd Emlyn mae pobl ifanc wedi cael eu rhybuddio i beidio neidio oddi ar bont yn y dref i mewn i'r Afon Teifi, gan fod yr afon yn parhau i fod yn llifo'n gryf yn dilyn y glaw.

Mae nifer o linellau trenau yng Nghymru yn parhau i fod ar gau, gan gynnwys rhwng Aberdâr a Phontypridd, Glyn Ebwy i Gaerdydd, Y Fenni i Henffordd, a Blaenau Ffestiniog i Landudno.

Disgrifiad,

Cynghorydd Pentre, Shelley Rees-Owen: "Dŵr nawr yn llifo lawr y stryd"

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru fod amodau gyrru'n wael, gan gynghori pobl i fod yn ofalus a pheidio â gyrru drwy ddŵr llifogydd.

Mae safle trin dŵr yn Nhrefynwy yn parhau i fod ar gau yn dilyn y llifogydd, gyda thrigolion yn cael cyngor i beidio defnyddio mwy o gyflenwad nag sydd angen.

Wrth siarad ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru, dywedodd Mr Drakeford y byddai arian ar gael i unigolion yn ogystal â busnesau sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd diweddar, yn enwedig pobl oedd heb yswiriant.

"Roedden ni'n dweud £10m yn gynharach yn yr wythnos jyst i roi hyder i'r bobl y bydd arian yna. Do'n ni ddim wedi dweud dim ond £10m," meddai.

"£10m i ddechrau, ac os fydd y darlun yn newid a bydd rhaid i ni gael mwy o help, ni'n barod i weld beth arall ni'n gallu gwneud. Yn y tymor hir bydd miliynau o bunnoedd."

'Ffafrio'

Yn gynharach roedd arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o "ffafrio" ardaloedd yng nghymoedd y de ble roedd eu cefnogaeth nhw gryfaf, o'i gymharu â'r ymateb pan gafodd ei ardal ef ei effeithio gan Storm Callum 18 mis yn ôl.

"Roedd ein trigolion ni yn yr un sefyllfa ddifrifol y tro diwethaf, ond doedd dim ceiniog i helpu," meddai cynghorydd Plaid Cymru.

Mewn ymateb dywedodd Mr Drakeford eu bod yn rhoi arian i awdurdodau lleol ar draws Cymru pan oedd hi'n dod at daclo effaith a difrod llifogydd.

Mae disgwyl i arweinydd Llafur y DU, Jeremy Corbyn ymweld ag ardaloedd sydd wedi'u heffeithio gan y llifogydd ddydd Iau.

Mae Mr Corbyn ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, eisoes wedi beirniadu Prif Weinidog y DU, Boris Johnson am beidio ag ymateb yn ddigon cryf i'r argyfwng.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod cyfrifoldeb dros amddiffynfeydd llifogydd wedi'i ddatganoli ac felly'n fater i Lywodraeth Cymru.