Cau ffyrdd wrth i bont gerdded gael ei symud yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Bydd y gwaith o symud pont gerdded dros brif ffordd yn Abertawe yn dechrau ddydd Sul.
Bydd pont newydd yn cymryd lle'r un bresennol dros Heol Ystumllwynarth fel rhan o arena dan-do newydd sy'n cael ei ddatblygu gan y cyngor.
Mae'r datblygiad ehangach, gwerth £135m, yn cynnwys cartrefi newydd, siopau a llefydd parcio.
Dywedodd Cyngor Abertawe bod y gwaith wedi cael ei drefnu ar adeg fyddai'n achosi'r lleiaf o drafferth i deithwyr.
Bydd traffig yn cael ei ddargyfeirio rhwng 14:00 ddydd Sul a 06:00 fore Llun tra bod craeniau yn symud y bont.