Senedd Ieuenctid Cymru yn ymgynghori ar iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
MerchFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae angen llawer mwy o wasanaethau i bobl ifanc sy'n cael trafferth ymdopi gyda'u hiechyd meddwl, yn ôl un o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru.

Daw sylwadau Ifan Price, sy'n cynrychioli ardal Dwyfor Meirionnydd, wrth i'r Senedd Ieuenctid ddechrau ymgynghoriad a fydd yn gofyn am farn pobl ifanc ar wasanaethau iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

Ychwanegodd Ifan: "Pan es i o gwmpas fy etholaeth fe wnaeth nifer o faterion fy nychryn wrth i mi siarad â phobl ifanc.

"Y cyntaf oedd canfod faint o bobl ifanc sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl.

"Yr ail oedd sylweddoli cymaint oedd y diffyg cefnogaeth a'r trydydd oedd canfod fod nifer o bobl ifanc ddim yn gwybod bod cefnogaeth ar gael iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 60 aelod o Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 11 a 18 oed

Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio yn swyddogol yng Ngholeg Gŵyr, Abertawe ac Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.

Yn ystod y lansiad bydd disgyblion a myfyrwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ac yn rhannu eu profiadau a'u teimladau.

Mae iechyd meddwl a lles pobl ifanc yn un o dri phwnc y pleidleisiodd y Senedd Ieuenctid dros roi sylw iddo yn ystod eu cyfarfod cyntaf yn Chwefror 2019.

'Rhestr aros yn flwyddyn'

Dywedodd Emily Kaye, sy'n cynrychioli Llanelli ac sydd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Cefnogi Iechyd Meddwl ac Emosiynol: "Os yw iechyd meddwl yn fater mor gyffredin pam ei fod yn cael ei drin fel esgus neu ddewis? Rhaid i hyn newid.

"Gall iechyd meddwl gael effaith ar unrhyw un ac mae'n holl bwysig bod y sawl sydd angen cefnogaeth yn cael y cymorth priodol.

"Rhaid cael addysg, cefnogaeth a chyfle i siarad am y mater."

Dywedodd Thomas Comber, sy'n cynrychioli etholaeth Delyn: "Mae un o bob 10 person ifanc yn delio â phroblemau iechyd meddwl bob dydd.

"Yr hyn sy'n gwaethygu'r sefyllfa yw nad yw gwasanaethau yn gallu ymdopi gan fod cymaint o bobl ifanc angen help.

"Mae rhestr aros CAMHS (Gwasanaeth Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc) yn gallu bod hyd at flwyddyn."

Bydd yr ymgynghoriad, a fydd yn cynnwys gweithdai mewn ysgolion a sefydliadau iechyd ar draws Cymru, yn para tan ddechrau Awst a bydd modd hefyd llenwi arolwg ar-lein.

Y gobaith yw cael darlun cliriach o farn pobl ifanc am iechyd meddwl a'r gwasanaethau sydd ar gael i'w helpu.

Bydd casgliadau'r arolwg yn cael eu defnyddio i gyflwyno argymhellion i Lywodraeth Cymru ar sut i wella gwasanaethau iechyd meddwl pobl ifanc.