Gohirio gêm rygbi'r Gweilch oherwydd coronafeirws

  • Cyhoeddwyd
lockdown yr eidalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn cael eu hatal rhag teithio yn rhannau o'r Eidal oherwydd y feirws

Mae gêm rygbi'r Gweilch yn Yr Eidal ddydd Sadwrn wedi cael ei gohirio o ganlyniad i gynnydd yn nifer yr achosion o coronafeirws yn y wlad.

Roedd y tîm i fod i wynebu Zebre, sy'n chwarae yn ninas Parma yng ngogledd Yr Eidal.

Mae pump o bobl bellach wedi marw o'r feirws yn y wlad, sydd â'r nifer mwyaf o achosion yn Ewrop.

Daw'r penderfyniad i ohirio'r gêm wrth i'r awdurdodau gyfyngu ar hawl bobl i deithio.

Talaith Lombardy ynghyd â Veneto yw canolbwynt yr achosion hyd yma.

Mae tîm Zebre yn cynrychioli pedwar talaith gan gynnwys Lombardy.