Y gantores Duffy wedi ei 'threisio a'i chadw'n gaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae'r gantores, Duffy, wedi datgelu fod ymosodwr wedi rhoi cyffur iddi a'i threisio a'i chadw'n gaeth dros gyfnod o ddyddiau.
Postiodd y Gymraes 35 oed ar ei chyfrif Instagram bod ei "hadferiad wedi cymryd amser".
Yn y nodyn dywedodd: "Y gwir yw, a plis a wnewch chi ymddiried ynof, dwi'n iawn ac yn ddiogel nawr."
"Cefais fy nhreisio a'm llygru â chyffur a chael fy nal yn gaeth dros rai dyddiau," ysgrifennodd.
Fe wnaeth y gantores werthu dros saith miliwn copi o'i halbwm cyntaf Rockferry wrth iddo fynd i rif un mewn chwe gwlad, ac fe enillodd dair Gwobr Brit a Grammy.
"Gallwch chi ddim ond dychmygu faint o weithiau dwi wedi meddwl am ysgrifennu hwn," ysgrifennodd y gantores o Nefyn ar Instagram.
"Wel, dwi ddim yn hollol siŵr pam mai nawr yw'r amser iawn, a beth sy'n 'neud i mi deimlo'n gyffrous ac yn ryddhad i mi siarad am y peth.
"Ni allaf ei egluro. Mae llawer ohonoch yn pendroni beth ddigwyddodd i mi, i ble wnes i ddiflannu a pham.
"Cysylltodd newyddiadurwr â mi, daeth o hyd i ffordd i gael gafael arnai a dywedais bopeth wrtho yr haf diwethaf. Roedd yn garedig ac roedd yn teimlo mor anhygoel i siarad o'r diwedd.
"Y gwir yw, a plis a wnewch chi ymddiried ynof, dwi'n iawn ac yn ddiogel nawr, cefais fy nhreisio â chyffuriau a chefais fy nghadw'n gaeth dros rai dyddiau. Wrth gwrs mi wnes i oroesi. Cymerodd yr adferiad amser.
"Nid oes unrhyw ffordd hawdd i'w ddweud. Ond gallaf ddweud wrthoch chi yn y degawd diwethaf, y miloedd ar filoedd o ddyddiau yr oeddwn i eisiau teimlo'r heulwen yn fy nghalon eto, mae'r haul yn tywynnu nawr."
Daeth Duffy i enwogrwydd ar draws y byd yn 2008, ac fe gyrhaeddodd rhif un yn y siartiau mewn 12 o wledydd gyda'i chân 'Mercy'. Ar ddiwedd 2010 fe gwblhaodd ei hail albwm, 'Endlessly'.
Yn Chwefror 2011, cyhoeddodd y gantores y byddai'n cael saib o'r byd cerddorol cyn dechrau ar y gwaith o greu ei halbwm nesaf.
'Sut alla i ganu o'r galon os yw honno wedi ei thorri?'
Y datganiad hwn, a gafodd ei ryddhau ar y wefan cymdeithasol Instagram nos Fawrth, dolen allanol, yw ei neges gyntaf arno.
"Rydych chi'n meddwl tybed pam na wnes i ddewis defnyddio fy llais i fynegi fy mhoen? Doeddwn i ddim eisiau dangos i'r byd y tristwch yn fy llygaid. Gofynnais i mi fy hun, sut alla i ganu o'r galon os yw honno wedi ei thorri?
"Ac yn araf mae hi wedi gwella. Yn yr wythnosau nesaf, byddaf yn rhyddhau cyfweliad llawn wedi ei recordio.
"Os oes gennych unrhyw gwestiynau, fe hoffwn i eu hateb, yn y cyfweliad, os gallaf. Mae gen i gariad a gwerthfawrogiad diffuant am eich caredigrwydd dros y blynyddoedd. Rydych wedi bod yn ffrindiau. Rwyf am ddiolch ichi am hynny. X Duffy.
"Os gwelwch yn dda a fyddech chi'n fodlon parchu'r cam tyner hwn dwi'n ei gymryd, ac nid wyf am i neb gysylltu gyda fy nheulu. Cefnogwch fi i wneud hwn yn brofiad cadarnhaol."
Mewn cyfweliad ar Radio Wales, dywedodd prif weithredwr Cymorth i Ferched Cymru, Eleri Butler bod datganiad y gantores yn un "cryf, dewr a grymus o oroesi cael ei dal, ei threisio a'i cham-drin, ond yn anffodus mae'n brofiad rhy gyffredin".
"Bydd un o bob tair merch yn profi rhyw fath o drais yn eu herbyn gan ddyn yn eu bywydau," meddai.
"Bydd un o bob pum merch dros 16 oed yn cael eu treisio neu'n dioddef ymosodiad rhywiol felly mae'n rhan o fywyd bob dydd cannoedd a miloedd o ferched a dynion ar draws Cymru.
"Fel dywedodd Duffy, mae adferiad yn cymryd amser. Mae'n anodd iawn i drafod y peth, gall cymryd llawer o flynyddoedd ac mae'n cael ôl-effeithiau parhaus...
"Mae rhai merched yn gallu siarad amdano flynyddoedd maith wedi'r profiad, ond i rai dydy hi fyth yn adeg gywir i wneud hynny."
Ceisiodd y BBC gysylltu â Duffy i wirio ei stori.