Galw i ddigolledu dioddefwyr llifogydd Pentre yn llawn
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad Rhondda yn dweud y dylai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) roi iawndal llawn i bobl gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn ardal Pentre.
Cadarnhaodd CNC eisoes eu bod o bosib wedi cynyddu'r posibilrwydd o lifogydd yno ar ôl torri coed, wnaeth rhwystro ffos wedi Storm Dennis.
Mae'r AS Llafur, Chris Bryant yn galw ar CNC "i dderbyn cyfrifoldeb yn ffurfiol", ac mae'r AC Plaid Cymru, Leanne Wood yn galw am ymchwiliad annibynnol.
Mae Plaid Cymru hefyd yn galw am "ymchwiliad annibynnol llawn" i'r hyn wnaeth achosi llifogydd diweddar ar draws Cymru.
Mae CNC wedi cael cais am ymateb.
'Y ffactor cyfrannol mwyaf'
Mewn llythyr at CNC, gofynnodd Mr Bryant i'r corff sefydlu "cynllun iawndal llawn i'r rhai gafodd eu heffeithio" ac i adolygu'r arfer o adael tomenni o docion ar y ddaear ar ôl torri coed "sy'n dwysáu llifogydd a thanau mynydd".
Ychwanegodd: "Does dim amheuaeth gen i o gwbl mai'r ffactor mwyaf a gyfrannodd at lifogydd nos Sul i ddydd Llun 16-17 Chwefror a dyddiau Iau a Gwener 20-21 Chwefror oedd gwaith clirio coedwigaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ar lethrau'r mynydd uwchben Eglwys San Pedr."
Dywedodd Mr Bryant y bydd trigolion "yn dwyn achos sifil" os nad ydy CNC yn derbyn cyfrifoldeb yn wirfoddol.
Wrth alw yn y Senedd ddydd Mawrth am ymchwiliad annibynnol llawn, dywedodd Ms Wood pe byddai'n dod i'r casgliad mai CNC oedd yn gyfrifol am lifogydd Pentre dylai'r corff "sicrhau iawndal llawn i bobl heb amharu ar bolisïau [yswiriant] ar eu cartrefi neu gerbydau".
Ddydd Iau diwethaf, dywedodd CNC eu bod wedi torri tua 95% o ystâd goediog Pentre gan fod coed llarwydd yno wedi'u heintio.
Dywedodd eu rheolwr tactegol, Bill Purvis bod lluniau ar-lein yn gwneud hi'n "amlwg fod peth o'r coed wedi rhwystro'r grid" wedi glaw "digynsail".
Ychwanegodd y byddai CNC yn adolygu eu dulliau gweithredu "fel y gallwn ddysgu gwersi a gwneud gwelliannau er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2020