Cyflwr gwesty'r Corbett Arms yn poeni trigolion Tywyn
- Cyhoeddwyd
Mae angen gorfodi perchennog gwesty hynafol yn Nhywyn i werthu'r adeilad gan ei fod wedi dirywio i gyflwr peryglus, yn ôl un cynghorydd lleol.
Erbyn hyn mae dros 1,000 wedi arwyddo deiseb sy'n galw ar y cyngor sir i gyflwyno gorchymyn prynu gorfodol ar y Corbett Arms.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, mae swyddogion yn "ymwybodol o'r pryderon" ac yn "monitro'r sefyllfa".
Bu Alun Wyn Evans, sy'n gynghorydd tref yn Nhywyn, yn mynychu sawl digwyddiad yn y Corbett Arms yn ystod ei blentyndod.
"Os oeddech chi eisiau cynnal digwyddiad yn Nhywyn, i'r Corbett oeddech chi'n dod," meddai.
"Mae'n ddigalon gweld y lle, mae gwaith cynnal a chadw wedi mynd yn angof.
"Dwi'n siŵr bod hi'n waeth tu fewn na be' ni'n gallu gweld tu allan.
"Mae angen gwneud yn siŵr bod y lle yn saff.
"Mae plant yn torri mewn a chwarae yna, a beth os byddai un o'r rheiny yn brifo, pwy sy'n gyfrifol am y lle?"
Mae hen hysbyseb yn disgrifio'r Corbett Arms fel gwesty traddodiadol, cyfforddus, gyda 43 ystafell wely en-suite.
Mae'n fath o le fyddai'n cael defnydd da heddiw, yn ôl Dewi Jones, sy'n berchennog busnes lleol.
"Y peth cyntaf chi'n gweld o bell ydy'r Corbett Arms. Mae reit ar ochr lon fel chi'n cyrraedd yn y car.
"Does dim gwaith wedi cael ei wneud ar y lle ers blynyddoedd ac mae'n edrych yn uffernol.
"Pan mae pobl yn gyrru mewn i Dywyn, dyna'r lle cyntaf chi'n gweld, ac ydyn nhw eisiau dod i aros yma a stopio yma wedyn ar ôl gweld ffasiwn le - dwi ddim yn siŵr."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Rydym yn ymwybodol o'r sefyllfa a'r pryderon yn lleol am yr adeilad rhestredig yma.
"Dim ond pan fyddai pryder penodol am gyflwr adeilad ac amharodrwydd gan berchennog adeilad i gymryd camau angenrheidiol y byddai gorchymyn prynu gorfodol yn cael ei ystyried.
"Fodd bynnag, bydd swyddogion gorfodaeth cynllunio a chadwraeth y cyngor yn parhau i fonitro'r sefyllfa."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2019
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2015