Dyn yn ennill apêl yn erbyn euogfarn hela moch daear

  • Cyhoeddwyd
Moch daear
Disgrifiad o’r llun,

Mae hela'r rhan fwyaf o famaliaid gwyllt - gan gynnwys moch daear - gyda chŵn yn anghyfreithlon

Mae dyn o Aberhonddu wedi ennill apêl ar ôl iddo gael ei ganfod yn euog o hela mochyn daear.

Roedd Jamie Rush, 27, yn un o bedwar dyn gafodd eu canfod yn euog ym mis Hydref y llynedd o geisio lladd, anafu neu gymryd mochyn daear o safle yn Sir Benfro ym Mawrth 2018.

Cafodd yr achos llys ei ddwyn yn sgil ymholiadau'r RSPCA wedi i raglen Wales Investigates y BBC ddarlledu canfyddiadau ymchwiliad cudd.

Doedd yr RSPCA ddim yn gallu parhau â'u gwrthwynebiad i'r apêl, oherwydd materion yn ymwneud ag anhysbysrwydd tyst allweddol.

Cafodd y tyst aros yn anhysbys yn ystod gwrandawiad llys blaenorol, ond ni ddigwyddodd hynny yn y llys apêl.

Yn Llys y Goron Merthyr ddydd Iau llwyddodd Mr Rush i apelio yn erbyn ei euogfarn.

Roedd wedi cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd y llynedd i 22 wythnos yn y carchar.

Yn dilyn yr achos fe gafodd dau ddyn arall, o'r Rhondda a Threcelyn, eu carcharu am 26 ac am 20 wythnos.

Cafodd dyn arall o Aberhonddu ddedfryd ohiriedig o 20 wythnos.

Ceisiadau 'didwyll' i dyst aros yn anhysbys

Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPCA fod yr elusen yn "ddidwyll" wrth gyflwyno ceisiadau'n ymwneud ag anhysbysrwydd y tyst dan sylw, a bod rheiny'n dderbyniol ym marn llysoedd y gwrandawiadau blaenorol.

"Fodd bynnag, roeddem wrth gwrs yn bryderus o glywed sylwadau'r barnwr mewn cysylltiad â'r broses hynod brin yma," meddai'r llefarydd, "a byddem yn sicrhau bod dulliau gweithredu'n gyfan gwbwl ffit i bwrpas pan fo anhysbysrwydd tyst yn angenrheidiol.

"Yn y pen draw, ni allai'r RSPCA, yn foesegol, ganiatáu i anhysbysrwydd tyst ddod dan fygythiad - sef pam na allwn ni symud ymlaen gyda'r achos yma.

"Rydym yn falch o'n gwaith erlyn, sy'n rhan hanfodol o'n rôl ehangach o warchod anifeiliaid mewn angen ac mae gyda ni raddfa dda o lwyddo.

"Rydym yn cymryd sylwadau'r barnwr wirioneddol o ddifrif, a byddem yn sicrhau bod ein prosesau'n ymateb i'r pryderon hynny."