Cydnabod cyfraniad beibl.net wrth iddo gyrraedd 18 oed
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfraniad beibl.net, dolen allanol - y trydydd cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl yn cael ei gydnabod mewn digwyddiad yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 18 oed.
Bydd yr elusen fu'n gyfrifol amdano hefyd yn dod i ben.
Mae beibl.net yn olynu cyfieithiad William Morgan o'r Beibl yn 1588 (a gafodd ei ddiwygio gan John Davies yn 1620) a'r Beibl Cymraeg Newydd yn 1988 - y tri wedi cael eu cyfieithu yn uniongyrchol o Hebraeg a Groeg.
'Angen Beibl mwy llafar'
Arfon Jones, ar ran elusen Gobaith i Gymru, fu'n bennaf gyfrifol am gynhyrchu beibl.net.
Wrth gael ei holi gan y BBC, dywedodd mai "breuddwyd oedd y cyfan i ddechrau pan oedd yn swyddog ieuenctid gyda'r Annibynwyr".

Arfon Jones sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am gynhyrchu beibl.net
"Wrth baratoi fersiwn ddiwygiedig o Feibl 1988 am ddeg mlynedd wnes i feddwl bod angen cyfieithiad gwahanol o'r Beibl i gyrraedd pobl newydd," meddai.
"Dwi'n cofio pobl ifanc yn deud wrthai nad oeddynt yn dallt y Beibl ac roedd angen dybryd am Feibl mewn arddull mwy llafar - yn y fersiwn ddiwygiedig o Feibl 1988 a gyhoeddwyd yn 2004 roedd yn rhaid i'r iaith fod yn safonol a doedd dim lle i ystwytho'r iaith.
"Doedd hi ddim yn fwriad i gystadlu yn erbyn y Beibl Newydd ond darparu rhywbeth i gynulleidfa newydd.
"Roedd y gwaith yn golygu trafod gyda chyfieithwyr eraill ar draws y byd, gan gynnwys rhai yn Jerwsalem ac Awstralia, er mwyn canfod union ystyr yr Hebraeg a'r Groeg gwreiddiol."
Beibl ar y we oedd beibl.net i ddechrau ond mae bellach mewn print ac mae dros 5,000 o gyfrolau wedi'u gwerthu a'u dosbarthu i gapeli ledled Cymru.
'Perthnasol i bobl ifanc'
Yn ôl Meleri Cray o Cymdeithas y Beibl y bwriad yw bod y Beibl yn cael ei ddarllen gan "gynulleidfa ehangach - efallai cynulleidfa fyddai ddim wedi darllen y Beibl fel arall - mae'n ffordd i gyrraedd ieuenctid.
"Mae e hefyd yn haws i'w ddarllen er bod rhywun dal yn adrodd Gweddi'r Arglwydd ac ambell salm yn ôl darlleniad yr hen Feibl."

Un sy'n darllen beibl.net yn gyson yw Sara Edwards o'r Bala. Dywedodd Sara: "Mae beibl.net yn gwneud y Beibl yn hawdd i'w ddeall ac yn berthnasol i bobl ifanc heddiw.
"Mae'n braf gweld ieuenctid yn darllen y Beibl i ddeall y Gair - mae'n rhoi cyfle i bobl fyddai ddim wedi meddwl darllen y Beibl o'r blaen."
Bydd y cyfarfod yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn yn cydnabod cyfraniad Arfon Jones a Gwenda Jenkins - y swyddog sydd wedi bod yn paratoi adnoddau i gyd-fynd â beibl.net.
"Mae nifer o adnoddau wedi'u cyhoeddi," meddai Gwenda Jenkins, "ac ry'n wedi datblygu y dulliau o'u cyflwyno wrth fynd ymlaen - bellach mae nifer o ddeunydd power point ar gael ac ry'n wedi trosleisio nifer o ffilmiau gwych o dramor."
Wrth i elusen Gobaith i Gymru ddod i ben bydd beibl.net a'r adnoddau yn cael eu trosglwyddo i ofal Cyngor Ysgolion Sul Cymru. Fe fydd y cyngor hefyd yn lansio dwy wefan arall ddydd Sadwrn sef gair.cymru, dolen allanol a cristnogaeth.cymru, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2019
- Cyhoeddwyd29 Medi 2017