'Ceisio gwrthsefyll cytundeb masnach niweidiol i Gymru'
- Cyhoeddwyd
Byddai Llywodraeth Cymru'n ceisio "gwrthsefyll" gweithredu unrhyw gytundeb masnach rhwng y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd y mae'n credu sy'n niweidiol i economi Cymru, yn ôl y Prif Weinidog.
Yn ôl Mark Drakeford, ni fyddai ei lywodraeth yn "weithredwyr Llywodraeth y DU" pe bai cytundeb newydd gyda'r UE yn arwain at "ddinistrio" diwydiannau pwysig.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "ymroddi" i gydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau cytundeb "sy'n gweithio er lles pob rhan o'r DU".
Mae trafodaethau swyddogol rhwng y DU a'r UE ar y berthynas wedi Brexit yn dechrau ym Mrwsel ddydd Llun.
Mae Prif Weinidog y DU, Boris Johnson wedi gwneud addewid i sicrhau cytundeb cyn 31 Rhagfyr, gan fynnu na fydd yn gofyn am ragor o amser.
Mae ei lywodraeth wedi rhybuddio y bydd yn tynnu'n ôl o'r trafodaethau ym Mehefin oni bai bod yna "fras amlinelliad" o gytundeb.
'Er budd neb'
Yn ôl dogfen 30 tudalen sy'n amlinellu eu blaenoriaethau ar gyfer y trafodaethau, mae gweinidogion y DU eisiau cytundeb masnach ar sail cytundebau blaenorol yr UE gyda Japan, Canada a De Corea.
Pan gafodd y ddogfen honno ei chyhoeddi, fe wnaeth Mr Drakeford gyhuddo Llywodraeth y DU o "roi ideoleg o flaen bywoliaeth pobl".
Ychwanegodd mewn araith ym Mhrifysgol Aberystwyth nos Fawrth "na fyddai er budd neb" i Lywodraeth y DU daro bargen gyda'r UE "na fyddai Llywodraeth Cymu'n barod i weithredu".
Ar raglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd ei fod yn "cyfeirio at dystiolaeth ryngwladol" mewn cysylltiad â systemau ble mae un llywodraeth â'r hawl i daro bargen - Llywodraeth yn yr achos yma - ond mae'r cytundeb yn cael ei weithredu dan bwerau gweinyddiaethau eraill - fel yn achos Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r dystiolaeth yna, meddai, yn dangos "pan fo cytundebau masnach na ellir eu gweithredu'n hawdd ar lefel leol, dydy'r cytundebau masnach hynny ddim yn cyflawni'r hyn mae pobl yn ei ddisgwyl ohonyn nhw.
"Os ydy'r llywodraeth yma'n dod i gytundeb, er enghraifft, a fyddai'n dod â'r diwydiant defaid yma yng Nghymru i ben, neu ddiwedd diwydiant gweithgynhyrchu Cymru, dydyn nhw ddim yn mynd i ddisgwyl i ni weithredu dinistr rhannau mor allweddol o economi Cymru."
'Defnyddio ein pwerau i liniaru a gwrthsefyll'
Dywedodd Mr Drakeford bod potensial i Lywodraeth Cymru "ddefnyddio'r pwerau sydd gyda ni i geisio lliniaru, i wrthsefyll" gweithredu rhannau o gytundeb rhwng y DU a'r UE sydd wedi eu datganoli.
Ychwanegodd: "Mae'r syniad ein bod ddim ond yn weithredwyr Llywodraeth y DU, ac os maen nhw'n dweud wrthym, 'dowch â'r diwydiant yna i ben', ein bod ni wedyn yn ateb, 'o'r gorau, amdani' - dydy hynny ddim am ddigwydd."
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Rydym wedi ymroddi i weithio gyda'r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau perthynas gyda'r UE yn y dyfodol sy'n gweithio i bob rhan o'r DU ac yn cryfhau'r Undeb.
"Mae trywydd y trafodaethau rydym wedi eu cyhoeddi heddiw yn weledigaeth am berthynas ar sail cydweithredu cyfeillgar rhwng y DU a'r UE.
"Pleidleisiodd pobl Cymru i'r DU adennill ei hannibyniaeth economaidd a gwleidyddol ac rydym yn sicrhau bod hynny'n digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2020