Cymru angen 'eglurder' ar gyllid ar ôl gadael yr UE

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Miles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jeremy Miles am i Lywodraeth y DU weithredu'n gyflym

Mae gweinidog Brexit Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i roi "eglurder" a dangos "ymrwymiad" i ddosbarthu cyllid i Gymru ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gweinidogion y DU wedi addo y bydd Cymru'n parhau i dderbyn y £375m y flwyddyn mae'r wlad yn ei dderbyn gan yr UE, ond nid ydyn nhw wedi cadarnhau sut.

Dywedodd Jeremy Miles nad oes "unrhyw amser i'w golli".

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cadw rheolaeth ar yr arian parod - ond dywedodd AS Torïaidd y gallai gael ei wario'n well.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn "parchu'r setliad datganoli".

Derbyniodd rhannau helaeth o Gymru arian ychwanegol gan yr Undeb Ewropeaidd ar ffurf cymorth economaidd.

O dan gronfeydd strwythurol yr UE byddai Cymru wedi derbyn mwy na £5bn erbyn 2020 - gyda'r cronfeydd yn cael eu gweinyddu gan Lywodraeth Cymru.

Roedd addewid y byddai'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, neu'r Shared Prosperity Fund (SPF) yn cael ei greu yn ei le.

Addawodd maniffesto etholiad cyffredinol y Ceidwadwyr y byddai'r ailosodiad "o leiaf" yn cyfateb i faint cronfeydd yr UE.

Mae David Jones, cyn-weinidog Brexit, wedi galw am redeg yr SPF o San Steffan, tra dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson y llynedd y dylid cael "dylanwad Ceidwadol cryf" dros sut mae'r arian yn cael ei wario.

'Ar waith erbyn 2021'

Dywedodd Jeremy Miles wrth BBC Cymru: "Byddwn yn eu hannog i gyflwyno ymrwymiad clir na fydd ceiniog yn llai i Gymru, a bydd y setliad datganoledig yn cael ei barchu.

"Nid ydym eto wedi cael y lefel o eglurder ac ymrwymiad y byddem yn ei ddisgwyl.

"Nid oes unrhyw amser i'w golli mewn gwirionedd.

"Rydyn ni mewn sefyllfa lle dylai'r rhaglenni hyn fod ar waith ar ddechrau'r flwyddyn nesaf, ac felly mewn gwirionedd mae angen i ni fod yn bwrw ymlaen ag ef nawr."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cadw rheolaeth o'r arian fydd yn cymryd lle'r cyllid Ewropeaidd

Siaradodd Mr Miles wrth i Lywodraeth Cymru lansio ymgynghoriad ar ei chynigion ei hun.

Mae wedi nodi pedair blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi - cynhyrchiant busnes a chystadleurwydd; lleihau anghydraddoldebau incwm; cymunedau iachach a mwy cynaliadwy; a'r economi di-garbon.

Dywedodd Stephen Crabb, AS Ceidwadol Penfro, yn rhy aml bod arian yr UE i Gymru yn cael ei wario "ar gam".

"Nid wyf yn credu bod digon o ffocws ar seilwaith strategol; nid wyf yn credu bod busnesau wedi chwarae rhan agos yn y penderfyniadau dylunio a gwariant o'r blaen, felly mae gennym gyfle i unioni hynny i gyd.

"Dwi ddim eisiau gweld dim llai o arian yn dod i Gymru ond rydw i eisiau gweld y pot o arian yn cael ei wario'n well."

Mewn ymateb dywedodd Mr Miles nad oedd yn derbyn nad oedd defnyddio cronfeydd yr UE wedi bod yn effeithiol - "i'r gwrthwyneb yn llwyr", meddai.

Ychwanegodd: "Mae lle bob amser i ddysgu a gwneud yn well yn y dyfodol, ac mae yna hyblygrwydd y gallwn ni fanteisio arno o ran sut rydyn ni'n dylunio rhai o'r rhaglenni hyn... sy'n ein helpu ni i ledaenu'n ddaearyddol ledled Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau rhwng cymunedau trwy godi cynhyrchiant, yn enwedig yn y rhannau hynny o'n gwlad y mae eu heconomïau bellaf ar ei hôl hi.

"Mae Llywodraeth y DU yn parhau i fod yn ymrwymedig i barchu'r setliad datganoli a gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y gronfa'n cyflawni ar gyfer pobl Cymru.

"Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru hefyd wedi ailddatgan ei ymrwymiad i'r berthynas waith gadarnhaol sy'n bodoli rhwng y ddwy lywodraeth yng Nghymru."