Mwy o drafferthion posib i deithwyr trên wedi storm

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd yn ardal LlanharanFfynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r brif lein rhwng Caerdydd a Pen-y-bont wedi ailagor wedi llifogydd yn Llanharan

Mae disgwyl rhagor o drafferthion i deithwyr ar y rheilffyrdd ddydd Llun wedi i lifogydd ddifrodi cledrau.

Bydd yna wasanaeth bws i gludo teithwyr rhwng Pontypridd ac Aberdâr oherwydd yr angen i atgyweirio difrod i sawl rhan o'r rheilffordd yn Rhondda Cynon Taf.

Mae tirlithriad hefyd wedi cyrraedd y trac ger Aberpennar, yn ôl Trafnidiaeth Cymru a Network Rail.

Mae nifer o ffyrdd yn dal ar gau, dolen allanol oherwydd llifogydd, tirlithriadau a choed wedi syrthio, yn ôl Traffig Cymru.

Roedd un teulu yn ffodus i osgoi cael eu hanafu pan syrthiodd goeden ar eu car nos Sadwrn.

Ffynhonnell y llun, Trafnidiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen atgyweirio'r rhan yma o'r trac yn ardal Aberpennar wedi tirlithriad

Mae deuddydd o dywydd garw - glaw trwm ddydd Gwener a gwyntoedd cryf ddydd Sadwrn - wedi achosi trafferthion ar draws Cymru.

Mae prif lein de Cymru wedi ailagor erbyn hyn rhwng Caerdydd a Phen-y-bont ar Ogwr, ynghyd â lein Treherbert.

Dywed Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru bod staff "yn gweithio ddydd a nos i ailagor y llinellau sydd wedi'u heffeithio".

Y sefyllfa'n 'newid o hyd'

Mewn datganiad ar y cyd, dywed y ddau gwmni eu bod "yn cydweithio'n agos i leihau unrhyw amhariadau ac yn gwneud popeth posib i gadw pobol yn symud yn eu blaenau.

"Ond mae'r sefyllfa'n newid o hyd ac felly mae amharu ar wasanaethau'n debygol gyda newidiadau munud olaf."

Mae disgwyl i waith asesu gael ei gwblhau ddydd Sul yn achos y trac yn Aberdâr.

Er hynny, bydd dim gwasanaeth llawn ddydd Llun, a bydd bysiau yn lle trenau rhwng Pontypridd ac Aberdâr.

Mae Lein Dyffryn Conwy yn dal ar gau gyda bysiau'n cludo teithwyr rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog wedi difrod yn sgil Storm Ciara ym mis Chwefror.

Mae gofyn i deithwyr edrych ar y wybodaeth ddiweddaraf, dolen allanol cyn cychwyn eu siwrne.