Ffyrdd ac ysgolion ar gau wrth i law ddisgyn ar draws Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ffyrdd ac ysgolion wedi'u cau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru wrth i law trwm barhau i ddisgyn ddydd Gwener.
Daeth rhybudd melyn ar gyfer glaw i rym am 06:00 ar gyfer pob sir yng Nghymru ac eithrio Ynys Môn a Sir y Fflint.
Mae disgwyl i'r rhybudd barhau nes 06:00 fore Sadwrn, ac fe rybuddiodd y Swyddfa Dywydd y gallai rhai tai a busnesau weld rhagor o lifogydd.
Mae'r llinell drenau rhwng Pen-y-bont a Chaerdydd Canolog eisoes wedi ei effeithio oherwydd llifogydd ar y trac ger Llanharan, gyda bysus yn cludo teithwyr rhwng y ddau le.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Rhybudd pellach
Mae sawl rhybudd llifogydd, dolen allanol mewn grym yn ne Cymru, gan gynnwys yn Llanilltud Gŵyr ger Abertawe, Afon Dulais ger Llanelli, Afon Hydfron yn Llanddowror, ac Afon Gwendraeth Fawr ger Pont-iets.
Mae rhybuddion hefyd ar Afon Tregatwg yn Ninas Powys, Afon Elai yn Llanbedr-y-fro, a thri rhybudd ar hyd Afon Ewenni ger Pen-coed a phentre Ewenni.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod disgwyl 20-40mm o law yn y rhan fwyaf o ardaloedd, gyda hynny'n codi i 50-70mm dros dir uchel ac hyd at 100mm mewn ambell i fan.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd brynhawn Gwener mai pentref Croeserw, yng Nghwm Afan, Castell-nedd Port Talbot welodd y glaw mwyaf trwy'r DU ers 02:00 fore Gwener, sef 38mm.
Roedd pentir y Mwmbwls yn ail gyda 28.2mm o law a Sain Tathan yn bedwerydd gyda 27.4mm.
Maen nhw hefyd yn dweud mai dyma'r mis Chwefror gwlypaf ond dau erioed yng Nghymru - a hynny cyn ystyried tywydd garw ddydd Gwener - gyda 246.7mm o law.
Mae hynny dros ddwywaith y cyfartaledd ar gyfer mis Chwefror sef 110mm.
Mae nifer o ffyrdd yn y de, gan gynnwys rhan o'r A48 yn Nhresimwn, Bro Morgannwg a'r A4054 yn Nantgarw, Rhondda Cynon Taf, hefyd ar gau oherwydd dŵr.
Dywedodd Cyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr fod nifer o ysgolion yr ardal am gau'n gynnar a'u bod wedi dechrau dosbarthu bagiau tywod i rai trigolion.
Mae disgwyl i'r glaw fod ar ei drymaf nos Wener, cyn clirio erbyn bore Sadwrn.
Ond am 12:00 ddydd Sadwrn fe fydd y rhybudd melyn am wyntoedd cryfion yn dod i rym ar gyfer Cymru gyfan nes amser cinio ddydd Sul.
Fe allai hynny arwain at oedi i rai trenau, fferïau ac awyrennau, pontydd ar gau i gerbydau mawr, a thonnau uchel mewn ardaloedd arfordirol.
Mae'r rhybuddion tywydd newydd yn dod wrth i nifer o gymunedau ar draws Cymru barhau i geisio trwsio'r difrod yn sgil tywydd garw Storm Ciara a Storm Dennis.
Yn gynharach yn yr wythnos cafwyd rhybuddion tywydd ar gyfer eira, gyda hynny'n disgyn yn bennaf ar diroedd uchel.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2020