Storm Dennis: 'Does dim arian gyda ni i drwsio'r tŷ'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu o ardal Pontypridd wedi bod yn sôn am y profiad o orfod dianc rhag y llifogydd gafodd eu hachosi gan storm Dennis fis Chwefror.
Bu'n rhaid i Rebecca Chadwick a'i mab Sam nofio i ddrws eu cartref yn Ynys-y-bwl, a chael eu cludo mewn cwch gan y gwasanaeth tân i ddiogelwch.
Dechreuodd y ddrama yn oriau mân fore Sul, Chwefror 16eg, pan gafodd Rebecca ei deffro gan sŵn larwm ei char.
"Fe wnes i fynd lawr y grisiau a rhoi'r golau ymlaen, ac roedd tipyn bach o ddŵr ar y llawr.
"Edrychais i ar y drws, ac roedd wal o ddŵr, so 'nes i fynd lan y grisiau a dihuno Sam, fy mab, ac wrth i ni gyrraedd gwaelod y grisiau oedd y dŵr yn dod mewn trwy'r drws ac o'dd dim byd oedden ni'n gallu gwneud i stopio fe.
"Aethon ni nôl lan llofft a ffonio'r gwasanaeth tân, ac wrth i ni siarad â nhw ar y ffôn, wnaeth y dŵr gynyddu, a nawr o'n i tua tair step o'r top, ac o'dd jyst dŵr ymhobman."
Fe gawson nhw eu hachub gan y gwasanaeth tân, ond roedd rhaid i Sam nofio dan y dŵr i chwilio am yr allwedd i agor drws y tŷ.
'Popeth mor frwnt'
"Roedd y dŵr mor ddu," meddai "a phan o'n i'n edrych am yr allwedd o'n i'n gallu teimlo faint mor frwnt oedd popeth. D'on i ddim eisiau meddwl beth oedd yn y dŵr pan wnes i fynd odano fe."
Pan ddaeth y criwiau tân i'r tŷ, fe ddywedon nhw bod yn rhaid i Rebecca a Sam fynd i'r dŵr er mwyn cyrraedd y drws.
"Wnaethon nhw ddod mewn a jyst dweud wrthon ni 'you've just gor to go for it'," meddai Rebecca, "ac yna dywedon nhw 'peidiwch a meddwl beth sydd yn y dŵr, paid a meddwl pa mor oer maen mynd i fod', o'dd rhaid i ni jyst mynd.
"So wnaethon ni nofio wedyn o'r grisiau i'r drws, a wedyn mynd ar rafft mas i waelod y stryd.
"On i jyst yn ein pyjamas ni - o'dd dim sgidiau 'da ni, o'n i jyst yn sefyll yna a meddwl beth ni'n mynd i wneud nawr."
Ar ôl mynd i dŷ ei rhieni yn y pentre am gyfnod, fe ddaeth Rebecca nôl i'w thŷ ychydig yn ddiweddarach, ac roedd y dŵr wedi mynd.
"Wnaethon ni ddod nôl mewn hanner awr.. falle tri chwarter awr.. a doedd dim dŵr ar ôl o gwbl.. o'dd e jyst wedi mynd.. O'dd e fel tsunami - wnaeth y dŵr ddod mewn.. o'dd e fel wal o ddŵr a wedyn wnaeth e fynd."
Colli gwaith plant ysgol
Fe adawodd ei ôl ar y tŷ, gan adael haenau o fwd ac annibendod ar hyd y llawr gwaelod.
Maen nhw wedi colli eu celfi i gyd, yn ogystal â phethau personol fel lluniau a gwaith y plant o'r ysgol lle mae Rebecca'n dysgu.
Cafodd ei char ei ddinistrio hefyd, gan fod llif y dŵr wedi sgubo'r cerbyd lawr y stryd.
Ond pan gysylltodd Rebecca â'i chwmni yswiriant, cafodd wybod nad oedd ei pholisi yn ddilys, oherwydd mai storm achosodd y difrod i'r tŷ.
Mae hi wedi derbyn arian gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sy'n rhoi £500 i bob tŷ gafodd ei daro gan y llifogydd
"Dan ni wedi cael y £500 gan Rhondda Cynon Taf, ac i ddweud y gwir beth mae £500 yn mynd i'w wneud? Dim lot.
"O'dd rhaid i ni brynu ffwrn a pheiriant golchi. O'dd rhaid i ni ddewis beth oedden ni'n mynd i brynu - peiriant golchi a ffwrn neu oergell. Does dim arian gyda ni i drwsio'r tŷ."
'Styc yma nawr'
Mae hi'n llawn canmoliaeth o ymateb y gymuned i'r llifogydd. Drannoeth y llifogydd roedd degau o bobl yno ar y stryd y tu fas i'w thŷ yn barod i helpu.
"Wnaeth pawb o'r pentre ddod mas.. odd tua 50 o bobl yma - wnaeth y brwsys dod mas... wnaeth y fferm lleol ddod lawr ac odd e jyst yn scoopo'r holl sludge fyny.. achos odd pawb jyst eisiau helpu.
"Odd pobl o Bontypridd ac oedden nhw wedi diodde lot hefyd, ond odd pobl wedi dod â bwyd i ni achos o'dd dim trydan 'da ni, o'dd dim ffordd o'dd unrhyw un yn y stryd yn gallu bwyta.
"Wnaethon nhw ddod a jacket potatos a bwyd poeth a diodydd poeth."
"Ers hynny ma pobl wedi bod yn cnocio'r drws... maen nhw'n dod â brwsys... maen nhw'n dod â disinfectant.. popeth. Bob dydd mae'n nhw'n galw a jyst gofyn 'Ti'n olreit?'"
Mae hefyd wedi cael cymorth gan bobl dyw hi ddim wedi bod mewn cysylltiad â nhw ers blynyddoedd.
Ychwanegodd: "Dwi wir yn chwilio am bobl i helpu.. ffrindiau ysgol.. ffrindiau o flynyddoedd yn ôl sydd wedi cysylltu â fi ar facebook. Mae un yn arbennig.. dwi heb siarad da fe ers tua trideg mlynedd a wnaeth e jyst galw ar y ffôn a dweud dwi'n dod lan i helpu chi."
Bellach mae Rebecca a Sam yn gorfod edrych i'r dyfodol a dechrau o'r dechrau i bob pwrpas.
"Mae'n deimlad trist iawn," meddai Sam, "ni wedi colli popeth a gweld mam yn adeiladu'r tŷ o ddim byd ond nawr mae wedi cael ei ddinistrio."
"O'dd Sam a fi wedi eistedd lawr," meddai Rebecca,"a dweud wel falle allen ni symud mas a gwerthu'r tŷ achos pob amser mae glaw neu storm ni'n mynd i feddwl ydy hwn yn mynd i ddigwydd eto.
"Ond y peth yw, does neb yn mynd i brynu'r tŷ oes e? So da ni'n styc yma nawr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2020