Y mislif: 'normal, annatod, anghyfleus'

  • Cyhoeddwyd
Esyllt SearsFfynhonnell y llun, Esyllt Sears
Disgrifiad o’r llun,

"Mae e wastad yn cyrraedd heb i fi ddisgwyl ac mae bob tro yn teimlo fel bod pawb yn gallu gweud"

Mae'n foment i gofio ym mywyd pob merch, sef y diwrnod hwnnw pan mae ei mislif yn cychwyn.

Mae'r comedïwr Esyllt Sears yn ailfyw ei siwrne 'o ferch i fenyw' gyda Cymru Fyw, gan gofio'r tro cynta' trawmatig a'r frwydr parhaol i ddod o hyd i ddeunydd mislif sy'n siwtio.

Dw i'n 38 mlwydd oed. Dw i 'di cael tua 285 mislif (namyn beichiogrwydd, colli babi, deiets ffasiynol, stres arholiadau, hinsawdd poeth).

Ac eto, mae pob mislif hwyr yn llwyddo i berswadio fi bo' fi'n disgwyl (waeth beth yw'r statws cyfathrach) ac mae pob un cynnar bendant yn gwneud fi feddwl mod i'n gwaedu'n fewnol. Siŵr o fod yn rhyw fath o gancr.

Deuddeg mlwydd oed neu 38 mlwydd oed, mae e wastad yn lletchwith gorfod dweud wrth eich mam eich bo' chi wedi gwaedu dros y gwely i gyd.

Ac mae'n digwydd i bob menyw, s'dim ots shwt wyt ti'n gorwedd, os wyt ti'n gwisgo tampon neu dywel sy'n ymestyn lan tuag at lafnau dy ysgwyddau, neu os oes eira ar y ffordd.

Hefyd, gallai sicrhau bod 100% o bawb sy' byth wedi cael mislif, erioed wedi edrych nôl ar eu un cynta' fel pillow fight gwyn, pur, i'w rannu gyda ffrindiau wrth neidio lan a lawr ar bâr o twin beds.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Y llifdorau'n agor

Fy un i? Ro'n i'n 12 a mam wedi bod yn paratoi ar gyfer y posibilrwydd drwy gario cynnyrch mislif gyda hi i bobman. Ond, y Nadolig yna, a ni'n mynd i aros gyda mam-gu a tad-cu yn y de, anghofiodd hi.

Gŵyl San Steffan (gŵyl yw'r gair anghywir yn y cyd-destun yma), a dyma'r llifddorau'n agor. Gwaed. Dim ots faint wyt ti wedi clywed am periods, ti'n 12 mlwydd oed ac mae 'na LOT o waed. A darnau cnawdog.

Wnaeth ein athro bioleg o ffarmwr byth ein paratoi ni ferched ar gyfer y darnau porffor, bron yn ddu, o gnawd.

Ac, wrth gwrs, gan mai dechrau'r 90au oedd hi, roedd pob siop ACTUALLY yn cau am rai dyddiau dros y Nadolig, yn enwedig yn y Rhondda ble'r oedden ni'n aros. Felly dim ond un opsiwn oedd ar gael.

Rhaid oedd treulio dechrau fy mislif cyntaf oll - y right of passage yma i fod yn fenyw, yr hyn oedd yn pontio rhwng fi'n gwisgo pinafore tra'n canu cerdd dant yn yr Eisteddfod gyda, falle, bod yr un mor wybodus am rhyw â Lois o Jabas - yn gwisgo incontinence pads mam-gu.

A hyd yn oed nawr, mae e wastad yn cyrraedd heb i fi ddisgwyl ac mae bob tro yn teimlo fel bod pawb yn gallu gweud. Fel bod rhywun wedi neud Samba ar 'y nhalcen i gyda gwaed.

Os ydw i wedi bod yn eistedd yn hir, dw i'n gorfod checio cefn fy nillad er mwyn neud yn siŵr bod dim gwaed wedi gorlifo. Wastad.

Ffynhonnell y llun, Esyllt Sears

Pa ddeunydd mislif?

Dw i'n agosach at y menopos na'r cyfnod cyn dechrau'r mislif ond dw i dal heb benderfynu pa ddeunydd mislif sydd well da fi.

Ddylen i sgriwio'r coil 'ma mewn i'n hunan? Ddylen i fewnblannu'r ffon 'ma mewn i mraich i, ddylen i gymryd cyffur ar ôl cyffur yn y gobaith rhyw ddiwrnod wnai ffeindio un sy' ddim yn hala fi'n hollol dw-lal/achosi fi i roi pwysau difrifol mlan/chwysu fel gall tywysog ond freuddwydio am wneud?

Ma' gwaith 'da fi i neud.

Sai'n siŵr pam bo' fi di dechre meddwl am hyn nawr. Falle achos i'n mislif diwetha' i achosi i fi golli pob teimlad yn fy nghoesau a'r unig beth na'th neud fi'n hapus oedd rock cake maint 'y ngwyneb i.

Neu falle, rhag ofn bod rhywbeth yn digwydd i fi, gall y gŵr ddefnyddio hwn i addysgu ein merch.

Ond yn sicr, y pethe pwysig ni 'di dysgu yw:

  • Mislifs suck

  • Ma' un o'n organau mewnol i siŵr o fod yn gwaedu

  • Fyddai dal i bendroni rhwng mooncup a tampons ar fy ngwely angau

Dw i'n deall nad yw pob menyw yn profi mislif, am resymau fel rhai genetig a meddygol, i enwi 'mond dau, a dw i ddim yn gymwys i drafod hynna mewn unrhyw ffordd, felly dylai'r mislif yn sicr ddim diffinio menywod, ond dylen nhw gael eu trin fel rhan normal, annatod, anghyfleus, o fywydau hanner y boblogaeth.

Hefyd o ddiddordeb