Help i bobl sydd eisiau adeiladu eu cartrefi eu hunain

  • Cyhoeddwyd
AdeiladuFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nod y cynllun ydy cael gwared ar y rhwystrau sy'n gallu codi i bobl sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain

Bydd pobl sydd eisiau adeiladu eu tai eu hunain yn gallu cael benthyciad ar gyfer mwyafrif y costau fel rhan o gynllun newydd gwerth £210m.

Fe fydd pobl yn gallu benthyg 75% o gost y plot a 100% o'r gost o adeiladu'r tŷ dan y cynllun.

Bydd darnau o dir yn cael eu darparu fel "plotiau parod", a ni fydd yn rhaid dechrau talu'r arian yn ôl nes i'r cartref gael ei gwblhau.

Mae Hunanadeiladu Cymru yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i reoli gan Fanc Datblygu Cymru.

Nod y cynllun ydy cael gwared ar y rhwystrau sy'n gallu codi i bobl sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain, fel darganfod plot, cynllunio a chyllid.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r cynllun yn "ateb i bobl sydd am aros yn eu hardal, ond nad ydynt hyd yma wedi gallu fforddio prynu yno".

'Opsiwn realistig'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai, Hannah Blythyn mai'r gobaith ydy "datgloi'r potensial i adeiladu tai yng Nghymru".

"Wrth i ni fuddsoddi'n sylweddol yn y gwaith o adeiladu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd, rydyn ni hefyd am helpu llawer mwy o bobl sydd am godi eu cartrefi eu hunain - nid rhywbeth i'r aelwydydd mwyaf breintiedig yn unig ddylai hyn fod," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Hannah Blythyn mai dim ond unwaith y byddai pobl yn cael mynd drwy'r broses

Yn y DU, 10% o'r rheini sy'n symud i gartrefi newydd sy'n eu codi eu hunain.

Mae ffigyrau'n awgrymu hefyd mai dim ond 70-75% o'i werth terfynol y mae'n ei gostio, ar gyfartaledd, i godi eich cartref eich hun gan nad oes rhaid i ddatblygwr wneud elw.

Dywedodd Cenydd Rowlands, rheolwr eiddo ym Manc Datblygu Cymru y bydd y cynllun yn hwb i gymunedau.

"Bydd tynnu ynghyd y prosesau cynllunio, dylunio, adeiladu a chyllid yn agor y drws i bobl adeiladu eu cartrefi eu hunain na fyddent fel arall wedi'i ystyried fel opsiwn realistig," meddai.