Cymeradwyo dymchwel hen orsaf heddlu Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
TwrFfynhonnell y llun, Google

Mae cynllun i ddymchwel cyn-orsaf heddlu er mwyn adeiladu archfarchnad ar y safle wedi ei gymeradwyo gan gynghorwyr yn Wrecsam.

Cafodd y twr concrid, oedd yn bencadlys i'r heddlu yn y dref ei gau yn Ionawr 2019 gyda swyddogion yn symud i adeilad newydd £21.5m yn Llai.

Fe gafodd cais i restru'r adeilad ei wrthod gan y corff sy'n gwarchod adeiladau hanesyddol Cymru, Cadw, y llynedd.

Archfarchnad Lidl sy'n gyfrifol am y cynllun i ailddatblygu'r safle, gan ddymchwel y twr ag adeiladu siop newydd a siop gyrru-am-goffi yno.

Nid oes dyddiad wedi ei gyhoeddi eto ar gyfer dechrau'r gwaith o ddymchwel yr hen orsaf.