Llofrudd Lynette White i gael ei symud i garchar agored?

  • Cyhoeddwyd
Jeffrey GafoorFfynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Jeffrey Gafoor ei ganfod yn euog o lofruddio Lynette White yn 2003

Mae disgwyl i lofrudd Lynette White gael ei symud i garchar agored.

Cafodd Jeffrey Gafoor ddedfryd o garchar am oes yn 2003 gyda lleiafswm o 13 blynedd o dan glo am y llofruddiaeth yn 1988.

Dywedodd y Bwrdd Parôl fod Gafoor yn "addas" ar gyfer carchar agored, a fyddai'n ei baratoi o bosib i gael ei ryddhau.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Lynette White wrth iddyn nhw gael gwybod am y penderfyniad hwn."

Cafodd Gafoor ei ddal gan ddefnyddio technegau DNA newydd, 11 mlynedd ar ôl i euogfarnau o lofruddiaeth a roddwyd i dri dyn gael eu dileu.

Cafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990 am lofruddiaeth Ms White a'u rhyddhau ym 1992.

Cafodd Ms White, 20 oed, ei thrywanu fwy na 50 gwaith gan Gafoor mewn fflat yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ym 1988.

Dywedodd llefarydd ar ran y Bwrdd Parôl wrth BBC Cymru: "Mae'r Bwrdd Parôl wedi gwneud y penderfyniad i beidio â rhyddhau Mr Jeffrey Gafoor yn dilyn gwrandawiad llafar ond mae wedi argymell ei fod yn addas ar gyfer symud i garchar amodau agored.

"Dim ond os yw panel Bwrdd Parôl yn fodlon bod y risg i'r cyhoedd wedi lleihau'n ddigonol ei fod yn addas ar gyfer carchar agored y byddwn yn gwneud argymhelliad ar gyfer amodau agored.

"Argymhelliad yn unig yw hwn a bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder nawr yn ystyried y cyngor ac yn gwneud y penderfyniad terfynol."

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Lynette White wedi ei llofruddio ar Ddydd San Ffolant ym 1988

Dywedodd llefarydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'r Bwrdd Parôl annibynnol yn cynnal asesiad risg trylwyr cyn argymell trosglwyddo i amodau agored ond mae'r Gwasanaeth Carchardai yn cadw'r gallu i ddychwelyd troseddwyr i garchar caeëdig ar yr arwydd cyntaf o unrhyw bryder."

Yn ôl canllawiau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder "gan bod y Bwrdd Parôl yn cynnal asesiad risg trylwyr, mae wedi bod yn bolisi hirsefydlog mai dim ond mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn y mae eu hargymhellion yn cael eu gwrthod".

Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros £30 ar ôl i dechnoleg DNA newydd arwain Heddlu De Cymru ato yn 2003.

Wrth ddedfrydu Gafoor, dywedodd y barnwr ei fod wedi "caniatáu i ddynion diniwed fynd i'r carchar" am drosedd yr oedd yn gwybod ei fod wedi'i chyflawni.

Yn ôl y Bwrdd Parôl, pwrpas cyfnod mewn carchar agored yw "caniatáu i faterion o bryder gael eu profi mewn amodau sy'n agosach i'r rhai sydd i'w cael yn y gymuned, er mwyn rhoi cyfle i garcharorion gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd, ac i ddatblygu cynllun i'w rhyddhau".

Gwrandawiad y bwrdd parôl y mis diwethaf oedd y trydydd i Gafoor, ar ôl i ddau gais blaenorol am barôl fethu.

Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith uchaf, i gyfeiriad y cloc: Cafwyd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller yn euog ym 1989, cafwyd Ronnie a John Actie yn ddieuog