Lynette White: Adroddiad am ddiddymu achos yn costio £900,000
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth ymchwiliad annibynnol, a ddaeth i'r casgliad mai "camgymeriadau dynol" arweiniodd at ddiddymu achos yn erbyn wyth cyn-swyddog gyda Heddlu'r De, gostio dros £900,000.
Roedd yr wyth heddwas yn rhan o'r ymchwiliad i lofruddiaeth Lynette White.
Cafodd Richard Horwell QC ei dalu £415,984 am arwain yr ymchwiliad.
Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad oedd ymdrech fwriadol i gelu unrhyw drosedd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod y gost yn adlewyrchu "cymhlethdod" yr ymchwiliad.
Datgelodd ateb i gais rhyddid gwybodaeth gan BBC Cymru mai cyfanswm y gost oedd £906,098.
Cafodd yr wyth cyn swyddog eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder, am eu rhan yn arestio ac erlyn pum dyn am lofruddio Ms White yng Nghaerdydd ym 1988.
Cafodd ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn ardal y dociau.
Fe gafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller - a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu ar gam, a hynny am oes yn 1990, cyn i'r tri gael eu rhyddhau yn 1992.
Ond daeth yr achos yn erbyn y swyddogion heddlu i ben yn ddisymwth yn 2011.
Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: "Mae cost yr ymchwiliad annibynnol a arweiniwyd gan Gwnsler y Frenhines i gwymp yr achos yn 2011 yn adlewyrchu ei gymhlethdod, ei raddfa a'i hyd.
"Gwnaeth yr adroddiad 17 o argymhellion i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i wella'r broses datgelu."
Derbyniodd y bargyfreithiwr iau, Patrick Hill, £380,761, roedd costau cyfreithiol yr hawlwyr yn £86,370, tra bod costau'r Adran Gyfreithiol yn £4,916.
Costau eraill oedd £14,470 ar gyfer trawsgrifiad o'r achos sifil yn 2015 a ddygwyd yn erbyn Heddlu De Cymru gan gyn swyddogion a oedd yn ymwneud ag ymchwilio i lofruddiaeth Lynette White, a £4,315 ar gyfer fformatio, argraffu a chyhoeddi'r adroddiad.
Daeth adroddiad Richard Horwell QC i'r casgliad nad oedd ymdrech fwriadol i gelu unrhyw drosedd.
Yn hytrach, mae'n beio'r sefyllfa ar "sawl methiant dynol".
Yn 2003, a hynny oherwydd technoleg DNA newydd oedd ar gael i Heddlu De Cymru, fe gafodd llofrudd Ms White, Jeffrey Gafoor, ei ddal ac fe gyfaddefodd ei fod wedi ei thrywanu wedi ffrae dros £30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2017
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2016