Bachgen wedi'i 'hela'n ddidrugaredd' cyn cael ei drywanu

  • Cyhoeddwyd
Harry BakerFfynhonnell y llun, Llun teulu

Mae llys wedi clywed bod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei "hela'n ddidrugaredd" cyn cael ei drywanu â chyllell mewn modd "gwaedlyd a didostur".

Cafodd corff Harry Baker, 17, ei ganfod ar 28 Awst 2019 yn ardal Y Barri ym Mro Morgannwg.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y bachgen o Gaerdydd wedi bod mewn ffrae dros gyffuriau gyda'r diffynyddion.

Mae chwe dyn a bachgen 16 oed i gyd yn gwadu llofruddiaeth.

Ffrae gyffuriau

Y chwe dyn sydd wedi'u chyhuddo ydy Raymond Thompson, 47, Lewis Evans, 61, Ryan Palmer, 33, Peter McCarthy, 36, Leon Clifford, 22, a Leon Symons, 21.

Mae Clifford eisoes wedi cyfaddef i ddynladdiad gan ddweud wrth yr heddlu mai ef wnaeth ddringo'r ffens a thrywanu Harry Baker.

Dywedodd yr erlynydd Paul Lewis QC fod ei gorff wedi ei ganfod ar y llawr ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith, a bod ei ddillad wedi eu tynnu i ffwrdd.

Ychwanegodd bod Mr Baker wedi bod yn "chwilio am fusnes" yn Y Barri gyda'i ffrind Louis Johnson wrth iddyn nhw ymweld â Poppy Davies a Michael Sparks, dau berson oedd yn defnyddio cyffuriau.

Disgrifiad o’r llun,

Ceisiodd Harry Baker a Louis Johnson guddio mewn iard ddociau ar Ffordd Wimborne

Dywedodd fod Ms Davies wedi gweld Mr Baker yn cario cyllyll a Mr Johnson yn cario machete ar un achlysur.

Ychydig yn ddiweddarach fe wnaeth pedwar o'r diffynyddion - Mr McCarthy, Mr Palmer, Mr Symons a'r llanc ifanc - ymweld â Ms Davies.

"Mae 'na bwynt wedi ble mae penderfyniad yn cael ei wneud i fynd ar ôl Harry Baker," meddai Mr Lewis wrth y rheithgor.

Wedi i'r dynion redeg ar eu holau, fe wnaeth Mr Baker a Mr Johnson geisio cuddio mewn iard ddociau yn y dref.

"Roedd e [Harry] yn meddwl y byddai'n saff yno ond roedd e'n anghywir. Roedd ei lofruddwyr yn benderfynol," meddai Mr Lewis.

"Fe wnaethon nhw ymosod arno mewn modd sydyn, gwaedlyd a didostur cyn dianc."

Dim camerâu

Clywodd y llys fod Louis Johnson wedi dianc ond nad oedd wedi cynorthwyo'r heddlu yn eu hymchwiliad.

Doedd dim camerâu cylch cyfyng yn yr ardal ble ddigwyddodd yr ymosodiad, ond mae'r erlyniad yn honni fod y diffynyddion i gyd yn gyfrifol am lofruddio Harry Baker.

Mae Mr Palmer, Mr Symons, Mr McCarthy, Mr Thompson, a'r bachgen hefyd wedi'u cyhuddo o anrhefn ymosodol, ac mae Mr Evans wedi'i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r achos yn parhau ac mae disgwyl iddo bara chwe wythnos.